Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 31 Ionawr 2018.
Wel, rwy'n sicr yn cytuno. Wrth gwrs y byddai'n ddefnyddiol i'r pwyllgor gael y wybodaeth honno. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, o ddarllen adroddiadau papur newydd am y gwaith a gomisiynodd Llywodraeth y DU, mae'n cynnwys rhyw elfen o ddadansoddiad rhanbarthol. Felly, byddai hynny'n ddefnyddiol dros ben i'r pwyllgor o ran gwybod lle mae'r senarios gwahanol a gwmpesir yn y gwaith hwnnw yn rhagweld effaith y tri llwybr gwahanol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru yn benodol. Ac mae'n synhwyrol i Lywodraeth y DU gynllunio senarios yn y modd hwn, ond nid yw cynllunio senarios yn y dirgel yn help o gwbl i'r gweddill ohonom, a bydd darparu gwybodaeth yn y ffordd y mae Jane Hutt wedi awgrymu yn ddefnyddiol i bwyllgorau yma ac i fusnesau ac i ddinasyddion cyffredin sydd eisiau deall effaith bosibl gadael yr Undeb Ewropeaidd yn eu bywydau eu hunain.