Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 31 Ionawr 2018.
Fe fyddwch yn gwybod, fel Gweinidog y Llywodraeth, fod yn rhaid i chi gael rhyddid i ofyn i'ch swyddogion wneud gwaith cynllunio heb orwelion, gan gynnwys yr holl opsiynau, ynghyd â rhai a fydd yn eich brawychu efallai, fel y gall y Llywodraeth benderfynu yn breifat beth i'w flaenoriaethu, ei gyflwyno, ei gynnig a'i wneud yn gyhoeddus. Edrychodd drafft cynnar o ddadansoddiad parhaus i gefnogi paratoadau a negodiadau Brexit Llywodraeth y DU ar drefniadau parod gwahanol sy'n bodoli ar hyn o bryd yn ogystal ag amcangyfrifon allanol eraill. Ni wnaeth nodi na mesur manylion y canlyniadau a ddymunir, sef partneriaeth newydd ddofn ac arbennig gyda'r UE yn ôl yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud, na rhagweld casgliadau'r negodiadau. Roedd hefyd yn cynnwys nifer o gafeatau ac roedd yn hynod ddibynnol ar nifer o ragdybiaethau lle roedd angen llawer mwy o waith er mwyn gwneud defnydd o'r dadansoddiad hwn a llunio casgliadau. Mewn gwirionedd felly, roedd y dadansoddiad hwn a ddatgelwyd yn answyddogol o dair senario yn anghyflawn. Fel Gweinidog yn y Llywodraeth, felly, sut rydych yn ymateb i'r ddyletswydd glir sydd gan Weinidogion y Llywodraeth i beidio â chyhoeddi unrhyw beth a allai greu risg o amlygu safbwyntiau negodi hyd nes y byddant wedi penderfynu beth yw eu safbwyntiau negodi ac wedi cyrraedd y cam lle na fyddai gwybodaeth o'r fath yn eu rhoi dan anfantais pan fyddant yn dod o amgylch y bwrdd gyda phartïon eraill?