Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch, Llywydd. Rydym wedi cyhoeddi dadansoddiadau ar effaith gyffredinol gadael yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd mewn meysydd megis buddsoddi ranbarthol a mudo. Bydd ein papur masnach yn cael ei gyhoeddi yn fuan, wedi ei seilio gan ddadansoddiadau annibynnol. Nid ydym wedi gweld dogfen Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi ei ddatgelu'n answyddogol. Rydym yn galw ar yr Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd i gyhoeddi ei dadansoddiad.