Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Bydd e'n ymwybodol, o leiaf, o adroddiadau'r wasg, bod y dadansoddiad yma yn edrych ar dair sefyllfa: sefyllfa aros yn y farchnad sengl i bob pwrpas, sefyllfa o adael o dan reolau'r World Trade Organization, a sefyllfa o ryw fath o gytundeb masnach rydd o'r fath y mae'r Prif Weinidog wedi bod yn sôn amdano.
Mae'r dair sefyllfa yn edrych dros 15 mlynedd, ac, ym mhob un sefyllfa, mae yna ddirywiad a gostyngiad yn y twf dros y 15 mlynedd, yn amrywio o 2 y cant o dan y farchnad sengl i 8 y cant o dan WTO. Mae'r effaith yn ei dro ar Gymru yn mynd i fod yn andwyol iawn, gan ein bod ni yn fwy exposed o lawer i rai agweddau, yn enwedig o dan reolau WTO, er enghraifft, y sector cig coch, gweithgynhyrchu, ceir ac ati, Airbus—jest fel enghraifft o beth all ddigwydd fan hyn. Felly, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet beth mae'r Llywodraeth yn mynd i wneud nawr i gael gafael ar y dadansoddiad yma?
Rwy'n deall bod San Steffan heddiw wedi cytuno ryw ffordd i rannu'r papurau yma gyda Aelodau Seneddol mewn ystafell gaeedig. Nid ydw i'n meddwl bod hynny'n hen ddigon da o gwbl. Mae angen i ni hefyd fan hyn weld y dadansoddiad yma. Rŷm ni yn cynrychioli buddiannau Cymru gymaint ag os nad yn fwy nag Aelodau Seneddol o Gymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru weld y dadansoddiad yma; rydw i am i Lywodraeth Cymru ofyn yn benodol am hynny. Ac, wrth gwrs, gan fod Llywodraeth yr Alban, a Maer Llundain ei hunan, wedi comisiynu'n annibynnol adroddiadau ac asesiadau ar effaith economaidd gadael yr Undeb Ewropeaidd, pam na wnewch chi ddim gwneud hynny, a chyhoeddi hynny yn ogystal?
Mae'n hen bryd i ni sylweddoli beth yw gwir gost gadael yr Undeb Ewropeaidd. Oes, mae yna benderfyniad i adael y sefyllfa wleidyddol, ond mae gadael y farchnad sengl a'r undeb dollau yn mynd i dalu yn ddrud iawn i economi Cymru.