Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 31 Ionawr 2018.
Rwy'n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet fod tryloywder yn beth da ac nad oes unrhyw reswm pam na ddylid cyhoeddi astudiaethau o'r fath, oherwydd wedyn gallwn ddod i'n casgliadau ein hunain, fel y mae'n dweud. Ond a fyddai'n cytuno â mi fod ymgais i ragweld sut olwg fydd ar y byd ymhen 15 mlynedd, yn enwedig pan ddaw'r rhagfynegiadau hynny gan economegwyr, yn debygol o fod o fawr mwy o werth na dyn hysbys yn archwilio ymysgaroedd iâr? Pe bai astudiaeth o'r fath wedi'i chynnal yn 1990, ni fyddai neb wedi nodi bodolaeth Google, Amazon neu Facebook. Dyna dri o'r cwmnïau mwyaf yn y byd bellach.
Yr hyn y dylem ei wneud, efallai, yw edrych ar ragolygon y bobl sydd wrth wraidd hyn. Roedd rhagolygwyr y Trysorlys, yn union ar ôl y refferendwm, yn rhagweld y byddai'r economi, dros y tri mis canlynol, yn crebachu 1 y cant; yn wir, fe dyfodd 0.5 y cant. Roeddent hefyd yn rhagweld y byddai twf negyddol yn y pedwar chwarter canlynol. Yn wir, rydym wedi cael twf ym mhob chwarter ers mis Mehefin 2016. Roeddent hefyd yn rhagweld, ddwy flynedd ar ôl y refferendwm, y byddai cynnyrch domestig gros yn gostwng -3 y cant i -6 y cant. Mewn gwirionedd, yn 2016, tyfodd yr economi 1.9 y cant, ac yn 2017, tyfodd 1.8 y cant. Roedd hefyd yn rhagweld y byddai diweithdra'n cynyddu rhwng 500,000 a 800,000. Mewn gwirionedd, mae diweithdra bellach ar ei isaf ers dechrau'r 1970au. Rhagwelai hefyd y byddai benthyca'n cynyddu bron £40 biliwn; mewn gwirionedd, mae lefelau benthyca'r Llywodraeth wedi gostwng 12 y cant ac mae bellach yn is nag y bu ers 2007. Felly, buaswn yn cynghori Ysgrifennydd y Cabinet i beidio â threulio gormod o amser yn archwilio'r darn penodol hwn o nonsens.