Effaith gadael yr UE ar Gymru

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 31 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:48, 31 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, po bellaf yr awn mewn amser oddi wrth heddiw, y mwyaf anfanwl fydd ymdrechion o'r fath i ragweld y dyfodol. Fodd bynnag, pe bai'r iâr benodol hon wedi bod yn awgrymu y byddai economi'r DU yn tyfu 8 y cant o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, rwy'n siŵr y byddai'r Aelod wedi bod yn llawer mwy caredig ei agwedd tuag ati.