Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r nifer o Aelodau sydd wedi cefnogi'r ddadl hon heddiw. Adlewyrcha'r lefel o ymgysylltiad trawsbleidiol y sylw cynyddol gan y cyhoedd a'r cyfryngau i fater sy'n effeithio ar bob un o'r 200,000 amcangyfrifedig o berchnogion eiddo lesddaliad ym mhob rhan o Gymru. Mae ein dadl yma heddiw, y camau a gymerwyd eisoes yn yr Alban, a'r cynigion a gyflwynwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU yn awgrymu i mi fod hon yn ddadl ddifrifol a'i bod yn hen bryd cael adolygiad egwyddorion cyntaf o gontractau lesddaliad—mae ar ei hôl hi o oddeutu 10 canrif mewn gwirionedd.
Mae lesddaliad yn grair o'r unfed ganrif ar ddeg ar adeg pan oedd tir yn golygu pŵer, ac yn anffodus mae hynny'n dal i fod yn wir. I dirfeddiannwr heddiw, mae lesddaliad yn golygu sicrhau'r incwm mwyaf posibl a chadw rheolaeth dros y tir y maent yn berchen arno. Ond i'r lesddeiliad mae'n golygu'r gwrthwyneb yn llwyr: costau direolaeth a diffyg rheolaeth ar yr hyn y gallant ei wneud i'r eiddo y maent yn berchen arno. Pan ddeddfodd Llywodraeth yr Alban i ddileu deiliadaeth ffiwdal, roeddent yn llygad eu lle o ran cywair y ddeddfwriaeth. Fel llawer o Aelodau, rwyf wedi cael sylwadau gan etholwyr sy'n dweud mai'r achos sylfaenol yw annhegwch cynhenid, cymhlethdod a natur hen ffasiwn contractau lesddaliad. Mae cwynion am renti tir cynyddol, pobl yn teimlo'n gaeth yn eu cartrefi eu hunain, a gwerthoedd eiddo sy'n gostwng fwyfwy flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i'r brydles sy'n weddill leihau yn gyffredin.
Dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, cynhaliais arolwg Facebook a gwelais nad oedd y materion hyn yn ddim ond cyfran fach iawn o broblem enfawr a chymhleth. Dywedodd un etholwr wrthyf fod ei brydles wedi'i gwerthu ddwywaith o fewn cyfnod o 12 mis, gan arwain at ddau hawliad ar wahân am rent tir. Bu'n rhaid iddo fynd i'r llys i ddatrys y mater. Dywedodd un arall wrthyf, ar ôl i'r cwmni prydlesu fynd i'r wal, fod y cwmni newydd wedi cynyddu rhent tir 100 y cant dros nos. Dywedodd un arall fod ei landlord wedi prisio ei phrydles ar dair gwaith gwerth ei chartref pan geisiodd brynu ei rhydd-ddaliad. Soniodd eraill am werthiannau tai a gollwyd o ganlyniad i gymhlethdodau gyda'r lesddaliad, yr angen i gael caniatâd i wneud yr atgyweiriadau mwyaf sylfaenol, a chodi tâl am waith cynnal a chadw er na wnaed unrhyw waith. Roedd nifer yn cwyno am ddiffyg gwybodaeth ynghylch lesddaliad yn y man gwerthu, gydag un yn teimlo ei fod wedi'i dwyllo wrth wneud pryniant. Yn y blynyddoedd diwethaf, bu llu o adroddiadau yn y wasg ar draws y sbectrwm am straeon arswyd yn ymwneud â lesddeiliadaeth.
Wrth gwrs, cafwyd nifer o ddiwygiadau i lesddeiliadaeth dros y blynyddoedd, o'r cyfyngiadau ar hawliau landlordiaid i droi tenantiaid allan yn y 1920au, hyd at yr 1960au a'r 1990au, a welodd hawliau newydd i denantiaid i ymestyn lesoedd. Mae grwpiau a sefydliadau diwygio lesddeiliadaeth sy'n gweithio gyda'r sector, megis y Gymdeithas Drawsgludo, wedi beirniadu gwendid Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 am fethu rhoi amddiffyniad i berchnogion cartrefi lesddaliad rhag ffioedd afresymol ac oedi wrth brynu, gwerthu neu hyd yn oed wella eu cartref. Nid yw'r ddeddfwriaeth hyd yn hyn wedi datrys y broblem ac mae'n rhyfeddol sut roedd y materion sydd mor gyffredin heddiw yn bodoli 20, 40, 60 mlynedd yn ôl. Fel y dywedodd un Aelod Seneddol Cymreig wrth y Senedd:
Pan fo lesddeiliaid yn ceisio naill ai adnewyddu eu prydles, neu brynu rhydd-ddaliad eu cartref, cânt eu dal am bridwerth. Mae lesddeiliaid yn hollol ddiamddiffyn gerbron landlord y tir.
Oherwydd proffidioldeb y system lesddaliadol, mae corfforaethau cyllid wedi prynu cyfran llawer o landlordiaid tir mawr.
Araith oedd honno a wnaed i'r Senedd yn 1961. Nawr, mae problemau newydd yn dod i'r amlwg. Dywedir bod rhai benthycwyr yn gwrthod morgeisi ar eiddo lesddaliadol, gan wneud y tai yn ddiwerth i bob pwrpas. Mae gwerthoedd tai wedi erydu oherwydd rhenti tir cynyddol, costau tribiwnlys a rhenti tir yn cael eu gwerthu fel nwyddau ar y marchnadoedd arian.
Codwyd £140 ar un o fy etholwyr fel ffi asesu pan geisiodd brynu ei lesddaliad. Fe'i syfrdanwyd wrth glywed y byddai ei rydd-ddaliad yn costio £13,000 iddo. Cyflogodd gyfreithiwr, ar gost bellach o £420, a lwyddodd wedyn i negodi'r ffi i lawr i £8,000. Felly, mae'n gwneud synnwyr fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiwn y Gyfraith i gefnogi diwygio cyfreithiol. Hefyd, mae cymhlethdod contractau lesddaliad gydag elfennau o gyfraith contract a chyfraith eiddo yn cydblethu yn rhoi perchennog cartref dan anfantais ar unwaith mewn anghydfodau ynghylch rhenti tir. Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Tachwedd y llynedd, cafodd ei ddisgrifio gan un Aelod Seneddol fel hyn:
Mae 'rhenti tir beichus' y dyddiau hyn yn deillio yn ôl pob tebyg o ymddygiad afresymol un sector o gymdeithas sydd â gwell gwybodaeth... ar draul rhan o gymdeithas nad ydynt yn gwybod beth sy'n digwydd.
Ym mis Ebrill y llynedd, galwodd y grŵp seneddol hollbleidiol ar ddiwygio lesddeiliadaeth am wahardd tai lesddaliadol a rhoi diwedd ar renti tir beichus. Yna, mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Sajid Javid, becyn o fesurau i leihau arferion lesddaliadol yn Lloegr, gan gynnwys deddfwriaeth i wahardd lesddaliadau newydd. Dywedodd:
Mae'n glir fod llawer gormod o dai newydd yn cael eu hadeiladu a'u gwerthu fel lesddaliadau, gan gamfanteisio ar brynwyr tai gyda chytundebau annheg a rhenti tir sy'n codi fwyfwy. Digon yw digon. Mae'r arferion hyn yn anghyfiawn, yn ddiangen ac mae angen rhoi diwedd arnynt.
Felly, mae'r rhain hefyd yn eiriau calonogol, ond hyd yma, nid oes unrhyw arwydd o unrhyw ddeddfwriaeth gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, bydd Bil Aelod preifat sy'n aros am ei ail ddarlleniad yn San Steffan y mis nesaf yn argymell diwygio rheoleiddiol pellach.
Yng Nghymru, roedd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer 2017 yn gwneud ein bwriadau'n glir ac yn dynodi bod Llafur yn barod i gyflwyno amddiffyniad i lesddeiliaid presennol, gan ddweud:
'Byddwn yn cefnogi'r rheiny sy'n berchen ar eu cartrefi, gan gynnwys... lesddeiliaid ac nad ydynt wedi'u gwarchod ar hyn o bryd rhag cynnydd mewn rhenti tir... Bydd Llywodraeth Lafur yn rhoi sicrwydd i lesddeiliaid rhag rhenti tir twyllodrus ac yn rhoi terfyn ar y defnydd arferol o dai lesddaliadol mewn datblygiadau newydd.'
Felly, rwy'n croesawu Papur Gwyn Llywodraeth Cymru 2012, 'Cartrefi i Gymru', sy'n ymrwymo i weithio gyda'r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau i gasglu tystiolaeth ar raddfa, maint a natur problemau lesddaliadol i lywio camau gweithredu pellach. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu pa gamau a argymhellir o ganlyniad, a pha gamau pellach y gellid eu hystyried o ganlyniad i'r ddadl hon.
Mae gwaharddiad ar dai lesddaliadol a adeiladir o'r newydd yn gam cyntaf amlwg ac angenrheidiol. Yn 2016, roedd 22 y cant o holl drafodion eiddo adeiladau newydd yng Nghymru yn drafodion lesddaliadol, ac rwy'n cydnabod y gwahaniaeth rhwng cartrefi a adeiladir o'r newydd a materion yn ymwneud â fflatiau a rhandai, sy'n fater llawer mwy cymhleth, ond un lle y ceir problemau sylweddol o hyd o ran cyfunddaliadau a lesddaliadau.
Wrth ymateb i ddadl yn Neuadd Westminster ym mis Rhagfyr 2017, dywedodd y Gweinidog tai ar y pryd, Sharma Alok AS
Mae pa un a yw Cymru'n diddymu lesddeiliadaeth yn fater wedi'i ddatganoli.
Felly, yn wahanol i'r unfed ganrif ar bymtheg, mae ein cymdeithas yn rhoi gwerth ar berchentyaeth—mae wedi cael ei annog yn gadarnhaol gan lywodraethau o bob lliw. Rydym i gyd yn deall bod hyn yn rhywbeth y mae'r rhan fwyaf o bobl yn dyheu amdano. Felly, mae bodolaeth, ailymddangosiad a thwf lesddeiliadaeth yn bla ar gymdeithas yn fy marn i. Mae'n destun cywilydd fod y modd hwn o gamfanteisio ar berchnogion cartrefi gan dirfeddianwyr ffiwdal yn parhau i fodoli, ac mae'n rhaid rhoi diwedd arno.
Felly, galwaf am dri pheth: camau brys dros dro i gyfyngu ar adeiladau lesddaliadol newydd yng Nghymru, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth frys i wahardd unrhyw adeiladu tai pellach sy'n seiliedig ar lesddeiliadaeth, ac rwy'n galw am ymchwiliad i bob math o lesddeiliadaeth sy'n bodoli eisoes, gyda golwg ar ddiwygio'r gyfraith i'w gwneud hi'n bosibl rhoi diwedd ar y system gymhleth ac anghyfiawn hon. Diolch i chi.