Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch i Mick Antoniw a noddwyr eraill y ddadl heddiw. Nid yw mater lesddaliadau a rhydd-ddaliadau yn un newydd yng Nghymru. Nid wyf yn mynd i geisio mynd yr holl ffordd yn ôl i'r unfed ganrif ar ddeg, fel y gwnaeth Mick, ond fe gawsom sefyllfa a gafodd lawer o sylw yn ystod y 1950au pan oedd gan nifer fawr o gartrefi glowyr yng Nghymoedd de Cymru lesddaliadau nad oedd y meddianwyr yn gallu eu prynu. Ar yr adeg honno, roedd gan un cwmni, Western Ground Rent, oddeutu 10,000 o lesddaliadau, ac roedd ymdrechion i ddiwygio'r sefyllfa yn y Senedd ar y pryd, wedi'u harwain gan rywun a ddaeth yn AS lleol i mi yn ddiweddarach, sef George Thomas. Nawr, beth bynnag yw'r enw sydd gan George Thomas y dyddiau hyn, fe gymerodd ran mewn o leiaf un ymgyrch ddefnyddiol, sef yr ymgyrch i ddiwygio lesddaliadau yng Nghymru yn ystod y 1950au a'r 1960au.
Fel y clywsom yn y ddadl heddiw, fodd bynnag, ceir tystiolaeth fod lesddaliadau yn sicr yn dal i fod gyda ni. Fel y nododd Mick Antoniw yn ei sylwadau agoriadol, amcangyfrifir bod oddeutu 200,000 o gartrefi lesddaliadol yng Nghymru, a cheir pryder fod nifer sylweddol o ddatblygiadau adeiladu o'r newydd yn cael eu cynnig i brynwyr gan ddod i mewn i'r farchnad fel lesddaliadau.
Un pwynt a wnaeth Mick oedd ei fod yn cydnabod bod yna wahaniaeth rhwng fflatiau lesddaliadol a thai lesddaliadol, a byddai rhai'n dadlau y gallai fod achos dros i fflatiau fod yn lesddaliadol, gan fod ganddynt fannau cymunedol amlwg a byddant hefyd yn cynnig gwasanaethau cymunedol. Ond er hynny, mae'r lesddeiliaid yn talu costau gwasanaeth am y cyfleusterau hyn, felly pam y dylent gael eu rhwystro rhag bod yn berchen ar eu rhydd-ddaliad eu hunain? Yn achos tai lesddaliadol er hynny, mae'n fwy rhyfedd byth fod adeiladwyr yn ceisio twyllo prynwyr â threfniadau lesddaliadol. Yn yr achosion hyn nid oes unrhyw fannau cymunedol, ni cheir unrhyw gostau gwasanaeth fel y cyfryw, felly mae llai byth o gyfiawnhad dros beidio â chynnig y rhydd-ddaliad.
Yn y blynyddoedd diwethaf cafwyd datblygiadau newydd lle roedd yr holl dai a oedd ar werth yn lesddaliadau, a dechreuodd Dai Rees enwi rhai o'r cwmnïau sydd wedi datblygu'r trefniadau hynny. Sylwais heddiw ar wefan Darlows fod cymaint â 185 eiddo lesddaliadol yn cael eu cynnig ar hyn o bryd yng Nghaerdydd yn unig.
Problem fawr yw nad yw llawer o brynwyr tro cyntaf wedi cael addysg ariannol o'r math sydd ei angen pan fyddant yn camu i fyd prynu eiddo. Mae hyn yn fethiant ar ran y system addysg, sydd weithiau'n rhy academaidd ei natur ac nid yw'n cynnig digon o berthnasedd ymarferol i fyfyrwyr ysgol. Mae angen inni roi addysg ariannol ystyrlon i bobl ifanc i'w paratoi ar gyfer camu i fyd eiddo, er mai dadl ar gyfer rhywdro eto yw honno.
I ddychwelyd at y pwynt dan sylw heddiw, bydd prynwyr tro cyntaf sy'n awyddus iawn i gamu ar yr ysgol dai a heb wybod fawr ddim, yn aml yn prynu tŷ, er na fydd llawer ohonynt hyd yn oed ddeall y gwahaniaeth rhwng rhydd-ddaliad a lesddaliad. Yna, pan ddaw'n bryd iddynt werthu'r tŷ, gwelant fod gwahaniaeth sylweddol rhwng eu pris marchnad hwy a phris marchnad tai cyfagos lle mae'r deiliaid yn berchen ar y rhydd-ddaliad. Er enghraifft, gwerthodd un o fy etholwyr, sy'n byw yng Nghwm Cynon, ei thŷ yn y pen draw am £110,000 am mai lesddeiliad yn unig oedd hi, tra oedd tai eraill yn yr un stryd yn gwerthu am £140,000. Mae honno'n golled sylweddol, ac nid oedd yr unigolyn dan sylw'n sylweddoli pan brynodd ei heiddo beth oedd lesddaliad hyd yn oed. Felly, dyma un rhan o'r broblem rydym yn ei hwynebu.
Gwnaeth Dai Rees y pwynt y dylem geisio gwneud rhywbeth yn yr achosion hyn i sicrhau bod y cyngor cyfreithiol a roddir i ddarpar brynwyr gan gyfreithwyr yn egluro'r gwahaniaethau hyn rhwng rhydd-ddaliad a lesddaliad. Ond wrth gwrs, cawsom gyfres o becynnau ariannol dros y blynyddoedd lle y rhoddwyd cyngor nad yw'n wir, felly rwy'n ofni, oni bai y ceir rhyw fath o reoliadau ystyrlon, na allwn ddibynnu'n iawn ar reoliadau i sicrhau cyngor da gan gyfreithwyr. Felly, rwy'n credu bod llawer o broblemau'n gysylltiedig â lesddaliadau; efallai'n wir mai deddfwriaeth yw'r unig ffordd ymlaen. Mae mater cymhwysedd cyfreithiol, a grybwyllwyd gan Dai Rees hefyd, yn broblem bosibl, felly rwy'n awyddus i glywed beth sydd gan y Gweinidog i'w ddweud am hynny heddiw, a sut y mae'n egluro hynny. Ond mae UKIP yn cefnogi'r egwyddorion sy'n sail i'r cynnig hwn, na ddylai prynwyr tai gael eu twyllo, ac rydym yn hapus felly i gefnogi'r cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn.