Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Deisebau am eu hadroddiad, ac ar ran Llywodraeth Cymru, rwy'n falch iawn o dderbyn pob un o'r 12 argymhelliad a gyflwynwyd gan y pwyllgor yn y ddadl heddiw. Mae'r ffordd y cynhaliwyd y ddadl yn adlewyrchu'r ffordd y gwnaeth y pwyllgor ymddwyn yn ystod ei ymchwiliad, ac unwaith eto, hoffwn gofnodi fy llongyfarchiadau i'r pwyllgor am y gwaith rhagorol a wnaed.
Fel y dywedais yn fy ymateb ysgrifenedig i'r adroddiad ac argymhellion y pwyllgor, rwy'n credu bod y ddeiseb a gyflwynwyd gan Whizz-Kids, yn galw am weithredu er mwyn sicrhau y gall pobl anabl gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus pryd bynnag y bo'i hangen wedi hoelio'r sylw ar y rhwystrau a wynebir gan bobl anabl pan fyddant yn defnyddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, ac yn arbennig, roedd y dystiolaeth fideo a gyflwynwyd i'r pwyllgor i gefnogi'r ddeiseb yn arddangosiad pwerus o'r anawsterau y mae pobl anabl yn eu hwynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau y mae pob un ohonom fwy neu lai yn y Siambr hon yn eu cymryd yn ganiataol.
Hoffwn ganmol Whizz-Kids am y gwaith y maent hwy a'r Pwyllgor Deisebau wedi'i wneud i dynnu sylw at rai o'r materion hynny. Rhannaf y rhwystredigaeth a fynegwyd gan bobl anabl a phobl sydd â symudedd cyfyngedig wrth geisio defnyddio ein system trafnidiaeth gyhoeddus. Teimlwn ei bod ar adegau'n ddirdynnol gweld yr heriau beunyddiol a wynebir gan bobl sydd ond eisiau gallu cysylltu'n well â phobl eraill, â mannau eraill, â gwasanaethau ac i weithio.
Ddirprwy Lywydd, credaf fod gormod o orsafoedd trenau yng Nghymru yn parhau i fod yn anhygyrch a bod gormod o'r cerbydau trenau ar ein rhwydwaith yn methu cyrraedd y safon y dylem ei derbyn yn 2018. Ond wrth ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd ar gyfer Cymru yn y dyfodol, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda Network Rail a'r gweithredwr trenau nesaf i wella mynediad at y rheilffyrdd ar gyfer yr holl bobl. Wrth gwrs, ni fydd newid yn digwydd dros nos, ond rhaid iddo ddigwydd.
Rwy'n croesawu cefnogaeth y pwyllgor i'n hargymhellion i gyflwyno canllawiau statudol mewn perthynas ag ansawdd gwasanaethau bysiau lleol a darparu seilwaith bysiau lleol. Rydym wedi gwneud cynnydd ar wella gwasanaethau bysiau drwy ddefnyddio'r arian a ddarparwn drwy ein grant cynnal gwasanaethau bysiau i wella ansawdd gwasanaethau bysiau lleol fel y nodir yn ein safonau ansawdd bysiau Cymru gwirfoddol.
Mae gweithredwyr bysiau yn gosod systemau cyhoeddiadau clyweledol stop nesaf ar eu bysiau, a hoffwn longyfarch Bws Caerdydd, Trafnidiaeth Casnewydd a Bysiau Arriva gogledd Cymru, sydd oll wedi gwneud cynnydd rhagorol dros y pedair blynedd diwethaf yn hyn o beth. Hoffwn groesawu penderfyniad Stagecoach hefyd i fuddsoddi mewn bysiau mwy newydd, crandiach a glanach sydd hefyd yn cynnwys technoleg cyhoeddiadau clyweledol stop nesaf.
Mae gwasanaethau bysiau'n gwella ac mae angen inni wella ein seilwaith bysiau. Byddaf yn cyflwyno argymhellion manwl yn y gwanwyn ar sut y gallwn gynllunio i fynd i'r afael â'r materion hyn yn y dyfodol, ynghyd â sut y gallwn wella tacsis a gwasanaethau cerbydau hurio preifat drwy gyfundrefn drwyddedu well, wedi'i theilwra i ddiwallu anghenion pobl Cymru—holl bobl Cymru. Fel y cyhoeddais yn ddiweddar, ym mis Hydref y llynedd rwy'n credu, byddwn yn rhoi sylw i adroddiadau yn y cyfryngau ynglŷn â mynediad at wasanaethau tacsi ar gyfer pobl anabl. Dywedodd Anabledd Cymru fod pobl yn cael eu hanwybyddu a thacsis yn gwrthod eu cludo, gan eu gadael yn ddiymgeledd ac wedi'u bychanu—yn ddiymgeledd ac wedi'u bychanu. Mae hynny'n rhywbeth na ddylai neb byth ei deimlo wrth deithio o A i B.
Dywedwyd wrthym fod gwell hyfforddiant ar gyfer staff trafnidiaeth rheng flaen yn ofyniad hanfodol os ydym yn mynd i fynd i'r afael â'r problemau a drafodwyd gennym heddiw. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddais ddatganiad polisi gyda chwe amcan sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a gynlluniwyd ar gyfer gwella mynediad at ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys trefnu hyfforddiant gwell i staff sy'n darparu ein gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae ansawdd yr hyfforddiant, wrth gwrs, fel y dywedodd Mark Isherwood, yn gwbl allweddol. Byddwn yn gwneud yn siŵr y darperir hyfforddiant o'r ansawdd gorau i'r gwasanaethau trafnidiaeth.