Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 31 Ionawr 2018.
Iawn, yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl ac i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb cadarnhaol i'r ddeiseb ac argymhellion y pwyllgor?
Soniodd Mike Hedges am ddewrder Whizz-Kidz yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor, ac ailadroddodd nifer o'r pwyntiau yn yr adroddiad, ond ychwanegodd fod pobl anabl yn aml yn penderfynu peidio â mynd allan am eu bod ofn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Soniodd hefyd am hyfforddi gyrwyr, gweithredwyr ac ati, a'r gwahaniaeth rhwng theori a chyflawniad y drefn hyfforddi honno ar lawr gwlad.
Rhoddodd Rhun ap Iorwerth adborth i ni gan ei etholwyr dros y blynyddoedd ac o'i ymgysylltiad â phobl anabl yn ei etholaeth. Soniodd fod pobl anabl yn teimlo eu bod yn faich ar deithwyr oherwydd eu bod yn achosi oedi, gan beri iddynt beidio â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n arwain, wrth gwrs, at eu hynysu ac at unigrwydd. Soniodd Rhun hefyd y dylai pobl anabl allu defnyddio trafnidiaeth pryd bynnag y bo'i hangen arnynt.
Lleisiodd Janet Finch-Saunders ei hedmygedd o'r cyflwyniadau i'r pwyllgor wyneb yn wyneb ac ar fideo, a gofynnodd ynglŷn â'r cynllun cymorth waled oren. Soniodd hefyd am bwysigrwydd cymhorthion clyweledol ar bob math o drafnidiaeth, yn enwedig gorsafoedd rheilffordd. Dylai mynediad fod yn hawl i bobl anabl.
Dywedodd Mark Isherwood fod hon wedi bod yn broblem barhaus ers amser hir iawn, a gwnaeth y pwynt ei fod yn credu nad oedd Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch yr argymhellion a wnaeth y pwyllgor. Soniodd yn faith am yr awydd i gael hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o anabledd, a'r angen i gydweithio'n drawsffiniol er mwyn darparu'r mynediad sydd ei angen.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich llongyfarchiadau i'r pwyllgor am y gwaith a wnaethom ar gynhyrchu'r adroddiad hwn. Soniodd Ken pa mor rymus oedd yr ymgysylltiad wedi bod yn y broses ymchwilio er mwyn nodi'r problemau a wynebir gan bobl anabl. Soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am y gwelliannau a wnaed eisoes, ond cydnabu fod llawer mwy i'w wneud. Diolch iddo am ei amlinelliad helaeth o'i gynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â'r problemau yn y dyfodol.
I grynhoi, rwyf am orffen drwy ailadrodd diolch y pwyllgor i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb, ac am y dystiolaeth rymus a theimladwy a ddarparwyd ganddynt. Rydym yn gobeithio y ceir gwelliannau go iawn yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf i wella profiadau pobl anabl ar bob math o drafnidiaeth gyhoeddus ac ar draws pob math o anabledd.