Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 31 Ionawr 2018.
Felly, rydym ni’n sôn am rywbeth yn y fan hyn sydd yn gallu cael effaith andwyol iawn.
Er ein bod ni wedi canolbwyntio yn yr ymchwiliad yna ar bobl hŷn, mi gafodd pobl anabl a phobl ifanc eu hadnabod fel dau grŵp arall sy’n agored i unigrwydd ac unigedd, ac mi glywsom ni fod trafnidiaeth yn gallu bod yn ffactor yn hynny. Mi dderbyniwyd tystiolaeth fod y rhwystr o orfod trefnu teithiau ymlaen llaw yn atal defnyddwyr rhag mynd ar deithiau, ac yn golygu bod teithiau munud olaf, i bob pwrpas, yn amhosib. Wrth gwrs, mae pobl ifanc anabl, fel eu cyfoedion nhw, eisiau teithio efo eu ffrindiau, eisiau cael y cyfle i deithio heb orfod cynllunio yn fanwl ddyddiau ymlaen llaw. Nid ydy hynny yn ffitio bywyd pobl ifanc, yn aml iawn, ac maen nhw eisiau teimlo y gallan nhw fod yn hyderus y byddan nhw'n gallu teithio heb deimlo eu bod nhw yn niwsans i bobl eraill.
Rydw i'n falch, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o argymhellion y pwyllgor, gan gynnwys rhoi hyfforddiant i staff trafnidiaeth i'w helpu nhw i greu amgylchedd cefnogol, cynhwysol, ac amgylchedd hygyrch, ac y byddan nhw'n gweithio efo'r grwpiau sy'n cynrychioli pobl anabl i ddatblygu'r hyfforddiant pwysig yna. Felly, mi fydd mewnbwn grwpiau fel Whizz-Kidz a Taran—rydw i'n cyfarfod â nhw yfory—rydw i'n siŵr o gymorth mawr i'r Llywodraeth efo'r gwaith yna.