Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am araith agoriadol ardderchog ac am wneud gwaith mor dda yn cadeirio'r gwaith pwysig hwn wrth inni ddechrau ar ymchwiliad y pwyllgor? A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch i glercod y pwyllgor a chynghorwyr y pwyllgor hefyd, am eu cefnogaeth drwy gydol ei waith?
Fel y dywedodd y Cadeirydd yn gwbl briodol, nid yw cael problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd yn ddim byd newydd: bydd un o bob pump o fenywod yn eu profi. Er gwaethaf hyn, credaf ein bod wedi cael ein siomi a'n digalonni mewn gwirionedd ynghylch y lefel isel iawn o ymwybyddiaeth a geir ymysg rhai o'r aelodau o staff rheng flaen ynglŷn â beth i'w wneud pan fydd rhai menywod yn cael problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu'n union ar ôl rhoi genedigaeth. Dyna pam y credaf fod yr argymhellion hynny, yn enwedig ynghylch uwchsgilio'r gweithlu staffio rheng flaen, a chael swyddi arbenigol fel y gallant fod yn adnodd i'r tîm ehangach, mor bwysig a hanfodol.
O ran unedau mamau a babanod, cafwyd peth dadlau, wrth gwrs, am yr angen am uned mamau a babanod yn ne Cymru, ond roedd yn eithaf amlwg y byddai angen un. Mewn perthynas â gogledd Cymru, wrth gwrs, mae'n llawer mwy cymhleth, oherwydd teneurwydd y boblogaeth. Dywedwyd wrthym fel pwyllgor fod yr unig welyau sydd ar gael ar hyn o bryd—y rhai agosaf at y bobl yng ngogledd Cymru sydd eu hangen—dros y ffin ym Manceinion. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i Lywodraeth Cymru ystyried darparu adnoddau wedi'u lleoli yng ngogledd Cymru—y gallai pobl o ogledd-orllewin Lloegr eu defnyddio—er mwyn gwella mynediad ar gyfer mamau a babanod. Oherwydd roedd yn eithaf amlwg o'r dystiolaeth a gawsom gan famau a oedd wedi bod drwy'r felin o ran salwch meddwl amenedigol ac angen eu derbyn i unedau mamau a babanod fod y ffaith eu bod gryn bellter i ffwrdd wedi eu hatal rhag gwneud y penderfyniad pwysig i fynd yno mewn gwirionedd, er bod yr holl dystiolaeth a gawsom wedi nodi'n glir iawn fod y canlyniadau'n llawer iawn gwell i famau a'u plant os caiff mam ei derbyn i leoliad priodol mewn uned mamau a babanod yn hytrach nag i ward seiciatrig oedolion a chael ei gwahanu oddi wrth ei phlentyn.
Dywedwyd wrthym gan ystadegwyr fod rhagweladwyedd yr angen yn eithaf clir: yn seiliedig ar ein poblogaeth a chyfraddau geni, bydd yna bob amser rywle rhwng 45 a 65 o famau y flwyddyn angen eu derbyn i'r mathau hyn o wardiau. Nawr, oherwydd y boblogaeth yng ngogledd Cymru, rydym yn sôn am niferoedd bach iawn. Rydym yn siarad am lond llaw, dwsin ar y mwyaf, yn y rhanbarth a allai fod angen mynediad at y pethau hyn, ond nid yw hynny'n golygu na ddylem geisio darparu o fewn y rhanbarth os yn bosibl.
Credaf mai un peth yr oeddwn yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfeirio ato yw bod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy o ymdrech i ymgysylltu â rhai o'r comisiynwyr dros y ffin yn Lloegr o ran ceisio cael trafodaeth ynghylch ble y gallai fod yn bosibl lleoli'r mathau hyn o wasanaethau yn y dyfodol.
O ran gogledd Cymru, un o'r pethau a oedd yn drawiadol iawn pan oeddem yn derbyn tystiolaeth oedd y dystiolaeth a oedd yn ymwneud â diffyg mynediad at y therapïau seicolegol hyn. Mae pawb ohonom wedi cael e-bost gan Dwynwen Myers, sy'n un o'r seicolegwyr clinigol amenedigol yng ngogledd Cymru, ac mae hi wedi ei gwneud yn gwbl glir fod ganddi 18.5 awr yr wythnos i wasanaethu'r cyfan o ogledd Cymru mewn perthynas ag iechyd meddwl amenedigol yn y rhanbarth. Treulir llawer o'r amser hwnnw'n teithio o un lle i'r llall. Rhoddodd enghraifft o dreulio tair awr yn y car mewn diwrnod gwaith chwe awr a chwarter o hyd. Mae hynny'n annerbyniol. Ni allwn gael sefyllfa lle nad yw pobl sydd angen mynediad at therapi seicolegol yn ei gael. Wrth i ni ddatrys problemau cyn iddynt waethygu, gwyddom weithiau y gall ddatrys pethau mewn ffordd sy'n gwneud pethau'n well ymhellach i lawr y ffordd. Felly, rwy'n bendant yn cefnogi'r angen i wario i arbed yn y maes penodol hwn fel y gallwn wneud pethau'n iawn yn y dyfodol.
Hoffwn dalu teyrnged yn ogystal, fel y gwnaeth y Cadeirydd, i'r sector gwirfoddol ac am y gwaith y maent yn ei wneud. Cawsom dystiolaeth emosiynol iawn gan fenywod a oedd wedi bod mewn sefyllfaoedd anodd dros ben, a rhai ohonynt wedi cyrraedd pwynt lle roeddent eisiau cyflawni hunanladdiad ar adegau, menywod a oedd wedi chwilio'n ddygn drwy eu hardaloedd lleol am gymorth ac a oedd wedi baglu'n sydyn ar draws grwpiau lleol yn aml iawn, grwpiau cymorth, grwpiau cymorth gan rai a oedd wedi bod drwy'r un peth. Ni allwn danbrisio eu gwerth yn fy marn i. Yn bersonol, hoffwn yn fawr weld y gwasanaethau hynny'n cael eu mapio ledled Cymru a chyllid sbarduno i'w helpu i dyfu ac i wella ansawdd yr hyn a wnânt. Os oes un peth y credaf y byddai'n gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i'r sefydliadau hynny, ychydig o arian sbarduno yw hwnnw, er mwyn iddynt dyfu'r rhwydweithiau cymorth y gallant eu darparu.
Felly, hoffwn longyfarch y Cadeirydd ar yr ymchwiliad rhagorol, ac er fy mod yn hapus iawn gydag ymateb y Llywodraeth, credaf fod rhai meysydd yn ddiffygiol yn yr ymateb hwnnw, ac edrychaf ymlaen at glywed gweddill y ddadl.