Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 31 Ionawr 2018.
Rwyf innau hefyd am gychwyn drwy ategu’r diolchiadau i’r Cadeirydd a’m cyd-aelodau o’r pwyllgor, i’r clercod a’r swyddogion a hefyd i’r rhanddeilaid, sydd wedi chwarae rhan deinamig iawn yn y drafodaeth yma, mae’n rhaid imi ddweud—yn fwy felly yn yr achos yma, rydw i’n meddwl, nag mewn unrhyw ymchwiliad arall rydw i wedi bod yn rhan ohono fe. Mae’n rhaid imi ddweud hefyd, mae’n debyg mai hwn yw un o’r ymchwiliadau mwyaf dirdynnol rydw i wedi cael y profiad o fod yn rhan ohono fe yn fy amser i fan hyn yn y Cynulliad. Roedd clywed straeon rhai o’r mamau a oedd yn dioddef o salwch meddwl amenedigol yn dorcalonnus ar adegau, wrth gwrs, a chlywed y straeon yna ar yr adeg mwyaf bregus yn eu bywydau: eu bod nhw’n gorfod penderfynu gadael eu plant ar ôl er mwyn cael y gwasanaethau yr oedd eu hangen arnyn nhw i wella. Ni allaf ddychmygu unrhyw beth a fyddai, mewn gwirionedd, yn gwneud y cyflwr yn waeth na gorfod gwneud penderfyniad o’r fath. Ond rydw i yn cysuro fy hun, os caf i ddweud, drwy obeithio efallai mai hwn fydd un o’r ymchwiliadau mwyaf llwyddiannus hefyd o safbwynt gwireddu rhai o’r argymhellion y mae’r pwyllgor yn eu gwneud. Gwnaf i ddim siarad yn rhy fuan, ond rydw i yn meddwl bod arwyddion positif iawn o safbwynt rhai o’r prif argymhellion.
Yn amlwg, mae’r argymhelliad cyntaf o sefydlu rhwydwaith clinigol rheoledig wedi’i dderbyn gan y Llywodraeth, ac mae hynny yn rhywbeth rydw i’n ei groesawu yn fawr iawn. Rwy’n edrych ymlaen at glywed nawr gan y Gweinidog ynglŷn â’r gwaith sydd wedi digwydd ar y ffrynt yna o safbwynt sefydlu’r rhwydwaith a’r gwaith o recriwtio rôl arweinyddol a oedd i fod i ddigwydd yn ystod y flwyddyn ariannol yma, os ydw i’n deall yn iawn. Felly, byddwn i eisiau clywed pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud eisoes i’r perwyl yna.
Galwad clir arall o’r ymchwiliad, fel rydym ni wedi ei glywed yn barod, wrth gwrs, oedd honno am uned fewnol, 'in-patient', i famau a babanod. Ers i’r uned yng Nghaerdydd gau yn 2013, mae yna ddadlau wedi bod ynglŷn â’r angen i ailsefydlu y gwasanaeth. Mae yna, wrth gwrs, argymhelliad clir ynglŷn â'r lle y dylai’r uned yna fod, ond mae yna hefyd, fel rydym ni wedi ei glywed, neges glir ynglŷn â’r angen i ddarparu gwasanaeth yn y gogledd. Fel Aelod dros ranbarth y gogledd, ni fyddech chi ddim yn disgwyl i fi ddadlau yn wahanol. Mae yna gyfle fan hyn—mae yna gyfleoedd yr ydym ni wedi cyfeirio atyn nhw mewn cyd-destunau eraill yn y gorffennol—i ddatblygu gwasanaethau trawsffiniol, sydd ddim o reidrwydd yn golygu traffig unffordd o bobl sydd angen gwasanaeth yn gorfod teithio i orllewin Lloegr i gael mynediad i’r gwasanaethau yma. Mae yna gyfle fan hyn, rydw i'n meddwl, i ni droi hynny ar ei ben drwy drafodaeth gyda’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr i sefydlu canolfan o bosib yng ngogledd-ddwyrain Cymru a fyddai wedyn ar gael, wrth gwrs, i ardal a dalgylch ehangach. Felly, mae hynny yn rhywbeth—fel y mae’r adroddiad yn ei argymell—y mae angen iddo fod yn destun trafodaethau brys, a byddwn i’n gobeithio bod y Llywodraeth yn mynd ar ôl hynny.
Wrth gwrs, yn gyfochrog â’r ymchwiliad yma, mi gawsom ni gytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth a oedd wedi sicrhau ymrwymiad i greu darpariaeth arbenigol 'in-patient' iechyd meddwl amenedigol, a byddwn i’n awyddus i glywed beth yw’r diweddaraf o safbwynt gwireddu hynny. Rydw i'n gwybod am y gwaith y mae WHSSC wedi bod yn ei wneud wrth ystyried opsiynau, a byddai’n dda gwybod ble'r ydym ni arni, oherwydd bod amser yn bwysig yn y cyd-destun yma. Ond, yn sicr, rwy’n falch o rôl fy mhlaid i i sicrhau bod y gwasanaeth yma am ddod yn realiti yn y dyfodol, gobeithio, cymharol agos, os yn bosibl. Felly hefyd, wrth gwrs, yr elfen arall yn y gytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth i sicrhau £20 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol bob blwyddyn mewn gwasanaethau iechyd meddwl ehangach. Nid oes amheuaeth y bydd elfennau o hwnnw yn cyfrannu at lawer o'r uchelgais sydd yn yr adroddiad yma gan y pwyllgor, yn enwedig, fel mae'r Gweinidog wedi cydnabod wrth ymateb i'r argymhellion, mewn taclo'r amrywiaeth sydd wedi bod mewn gwasanaethau rhwng y gwahanol ardaloedd byrddau iechyd yng Nghymru. Mi glywsom y term 'loteri cod post', fel sy'n cael ei glywed mewn cyd-destunau eraill, ond yn sicr mae angen nawr mynd i'r afael â hynny.
Mae hyfforddiant y gweithlu ehangach, wrth gwrs, yn bwysig—y pwyslais a glywsom ni gan y Cadeirydd i fuddsoddi mewn ffactorau ataliol; hynny yw, buddsoddi i arbed. Mi glywsom ni ffigurau o safbwynt y gost nid yn unig i'r gwasanaeth iechyd ond i'r gymdeithas yn ehangach, a buddsoddi rhag blaen yn fodd o arbed pres, ac nid dim ond arbed pres, wrth gwrs, ond arbed y boen a'r gwewyr y mae'r unigolion hynny yn ei ddioddef lle fyddai modd efallai fod wedi taclo llawer o hyn llawer, llawer yn gynt.
Rydw i'n gweld bod amser yn fy erbyn i. Felly, mi wnaf i orffen drwy gyfeirio, wrth gwrs, at yr elfen arall—ffactor arall bwysig sy'n cael ei chydnabod, sef, stigma, sydd yn gyffredin i bob math o broblemau iechyd meddwl. Mi gymeraf i'r cyfle i atgoffa fy nghyd-Aelodau bod yfory yn Ddiwrnod Amser i Siarad, i helpu rhoi diwedd ar stigma iechyd meddwl, ac mae'n amserol iawn, yn fy marn i, ein bod ni'n trafod hwn heddiw. Mi fyddwn i'n annog pob Aelod, fel y byddaf i, i ddefnyddio'r cyfle i gael y sgwrs yna gyda phobl. Mae'n iawn i drafod problemau iechyd meddwl, ond mae hefyd yn iawn ac yn ddyletsywdd arnom ni i wneud popeth y gallwn ni i fynd i'r afael â phob agwedd ar y cyflyrau hynny, gan gychwyn gyda gwireddu argymhellion yr adroddiad hwn.