Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 31 Ionawr 2018.
Mae Llyr newydd ddwyn fy lein. Wrth gwrs, mae'n amseru gwych: rydym yn sôn am yr adroddiad hwn ar y noswyl Diwrnod Amser i Siarad rwy'n credu, oherwydd yn amlwg fe gynhyrchoch chi eich adroddiad ym mis Hydref ac yna fe ymatebodd y Llywodraeth ym mis Tachwedd. Felly, da iawn arweinydd y tŷ am amserlennu'r drafodaeth hon heddiw.
Mae cael babi yn fusnes blêr. Un funud rydych chi'n fenyw yn eich siwt a swydd i fynd iddi, a'r funud nesaf rydych yn beiriant llaeth nad yw'n cael digon o gwsg ac yn gwbl ddibynnol ar bobl eraill i'ch galluogi i ddechrau ar y daith gydol oes o fod yn fam. A hynny gan dybio bod gennych fecanweithiau i'ch cefnogi, oherwydd os nad oes, neu os yw'r cymorth yn cael ei roi i chi'n amodol neu'n anfoddog neu'n ddigofus, mae'r daith yn llawer mwy heriol.
Felly, rwy'n credu bod hwn yn bwnc pwysig iawn. Credaf nad oes neb wedi sôn cyn belled eich bod, wrth gwrs, mewn mwy o berygl o drais yn y cartref os ydych yn feichiog. Mae'r rhai sydd wedi cael eu cam-drin o'r blaen bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu cam-drin yn ystod beichiogrwydd na menywod heb hanes o drais. Ffactorau risg eraill ymhlith mamau sengl yw lefelau addysgol is, statws economaidd-gymdeithasol is, cam-drin alcohol a beichiogrwydd anfwriadol. Salwch meddwl amenedigol—ceir cysylltiad cryf â thrais yn y cartref, yn y cyfnod amenedigol a thrwy gydol eich oes. Nid ydynt o reidrwydd bob amser yn bresennol. Yn amlwg, gallwch gael iselder ôl-enedigol heb fod gennych bartner treisiol. Gallai'r rhesymau dros eich iselder fod heb gysylltiad o gwbl ag unrhyw beth fel hynny. Ond rhaid inni fod yn ymwybodol bod y risgiau hyn yn bodoli, a bod mamau'n agored iawn i niwed mewn gwirionedd pan fyddant yn cael eu babi cyntaf.
Felly, rwy'n meddwl bod eich argymhelliad 19, gofal parhaus gan fydwraig neu ymwelydd iechyd, yn gwbl hanfodol. Pan oeddwn i yn y sefyllfa hon, byddech yn cael hyd at 10 diwrnod o ymweld â'r cartref, oni bai eich bod yn cytuno ar y cyd nad oeddech ei angen am fod gennych fecanweithiau cymorth da. Ond y dyddiau hyn gwn nad yw mor gyson â hynny, ac nid oes cyfarwyddiadau'n dod gyda rhianta. Mae taer angen cyngor proffesiynol annibynnol ar famau heb yr ychwanegiadau emosiynol a gewch yn aml gan aelodau eraill o'r teulu.
Mae argymhelliad 16 yn teimlo fel pe baem yn mynd dros yr un tir eto fyth. Rwy'n falch o glywed bod Llyr yn credu bod hwn yn mynd i fod yn adroddiad arloesol, a'n bod o ddifrif yn mynd i newid pethau, ond mae arnaf ofn fy mod yn cofio trafod hyn amser maith yn ôl. Mae graddfa iselder ôl-enedigol Caeredin wedi bod mewn defnydd ers o leiaf 30 mlynedd ac mae'n offeryn syml iawn ar gyfer gofyn i fenywod sut y maent yn teimlo, sy'n eich galluogi i asesu risg posibl; yn amlwg, heb golli golwg ar eich gallu i arsylwi ar y fenyw a sicrhau eich bod wedi deall—. Rydych chi eisoes yn adnabod y person, felly gallwch arsylwi hefyd a ydych chi'n credu bod yna iselder ai peidio.
Ond mae'n destun gofid ein bod yn dal i sôn am yr angen i fydwragedd ac ymwelwyr iechyd a meddygon teulu ac unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n dod i gysylltiad â menywod ôl-enedigol gael y sgiliau hyn, a hefyd i ofyn y cwestiwn mewn gwirionedd, oherwydd mae'n gwbl hanfodol ar gyfer diogelu'r fam a'r plentyn ein bod yn gofyn y cwestiynau hyn. Gofynnodd Lynne Neagle a allwn fforddio peidio â darparu'r gwasanaethau hyn, a'r ateb yw na allwn fforddio peidio ar unrhyw gyfrif, nid yn unig oherwydd yr effaith ar y fam ond oherwydd yr effaith ar y babi. Mae'r babi'n dechrau cyfathrebu y funud y mae'n gadael y groth, ac os nad yw'r fam, sef y prif berson y mae'r baban mewn cysylltiad â hi, yn cyfathrebu â'r baban, mae'r effaith yn gwbl ddinistriol. Pam y byddai'r baban yn trafferthu cyfathrebu os nad yw'n cael unrhyw ymateb gan yr oedolyn? Os yw'r oedolyn yn dioddef o iselder mawr, nid yw'n mynd i ymateb.
Felly, mae'n gwbl hanfodol fod gennym weithwyr proffesiynol yn rhan o hyn, yn ogystal ag aelodau'r teulu, er mwyn sicrhau, os yw'r person yn dioddef o iselder ysbryd amenedigol, fod pobl eraill o amgylch i siarad â'r baban, oherwydd fel arall mae'r canlyniadau'n rhai gydol oes: y methiant i sicrhau ymlyniad ag eraill, yr effaith ar ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol, gwybyddol a ieithyddol y baban, hwyluso datblygiad iechyd meddwl da yn ystod plentyndod ac fel oedolyn—fel y clywsoch yn eich tystiolaeth.
Byddai'n ddiddorol iawn clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet am yr offeryn asesu gwytnwch teuluoedd fel ffordd o ategu graddfa iselder ôl-enedigol Caeredin, oherwydd rhaid inni sicrhau nad yw deddf gofal gwrthgyfartal yn berthnasol yma a bod y rhai sydd fwyaf o angen gwasanaethau gweithwyr proffesiynol yn eu cael. Un o bob pump o fenywod—mae hynny'n golygu fod pawb angen y gwasanaeth hwn ac mae angen i bawb ddeall bod angen inni siarad â menywod am eu hiechyd meddwl amenedigol.