Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 31 Ionawr 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad ar iechyd meddwl amenedigol, ac i'r Cadeirydd am y ffordd yr agorodd y ddadl heddiw. Croesawaf y ddadl heddiw, sy'n adlewyrchu pa mor bell rydym wedi dod o ran cydnabod problemau iechyd meddwl amenedigol. Diolch byth, mae'r dyddiau pan oedd materion iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac yn y cyfnod amenedigol yn cael eu diystyru fel cwynion cyffredin a fyddai'n diflannu dros amser yn perthyn i'r gorffennol. Ceir mwy o ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth a rhaid i'r rhain arwain at ofal gwell o lawer i'n galluogi i fynd i'r afael â phroblemau a all effeithio'n ddifrifol ar deuluoedd, fel y nodwyd yn y ddadl heddiw, yn arbennig pan fo pobl yn gallu teimlo ar eu mwyaf bregus.
Rwy'n falch iawn o gytuno mewn egwyddor â 23 allan o'r 27 o argymhellion yn yr adroddiad, ac fe grynhoaf rhai o'r camau rydym yn eu cymryd sy'n codi o'r ymchwiliad. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod camau wedi'u cymryd yn y blynyddoedd diwethaf i wella gwaith atal ac ymyrraeth gynnar. Felly, mae cofnod mamolaeth Cymru, rhaglen Plentyn Iach Cymru, a'r offeryn newydd ar gyfer asesu gwytnwch teuluoedd a grybwyllwyd gan Jenny Rathbone yn helpu i nodi'n gynnar pa gymorth iechyd meddwl ychwanegol y gallai fod ei angen ar famau newydd. Ar y pwynt penodol hwnnw, datblygwyd yr offeryn asesu gwytnwch teuluoedd drwy gymorth y Llywodraeth, gydag arweiniad a chyllid, ac ers mis Hydref y llynedd mae holl ymwelwyr iechyd Cymru yn cael hyfforddiant ar ei ddefnydd. Felly, rydym yn edrych ar—[Anghlywadwy.]—i wella ymarfer a helpu'r teuluoedd mwyaf anghenus.