Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 31 Ionawr 2018.
Ac wrth gwrs, mae'r £1.5 miliwn y flwyddyn o fuddsoddiad ychwanegol a wnaethom, gan ei roi tuag at adeiladu gwasanaethau cymunedol ym mhob bwrdd iechyd, wedi bod yn allweddol ar gyfer darparu cymorth mor agos i'r cartref â phosibl ar gyfer mwy o deuluoedd ledled Cymru. Mewn rhai ardaloedd, arweiniodd at sefydlu gwasanaethau cymunedol sy'n dal i fod yn newydd iawn, tra bod eraill wedi gallu defnyddio'r arian ychwanegol i ehangu gwasanaeth presennol.
Yr hyn sy'n bwysig yw bod gennym yr ymrwymiad a'r mecanwaith ar waith i sicrhau safonau gofal cyson ledled Cymru. Felly, rwy'n croesawu argymhelliad y pwyllgor y dylem sefydlu rhwydwaith clinigol a reolir ar gyfer iechyd meddwl amenedigol yma yng Nghymru. Bydd y rhwydwaith yn cael ei arwain gan glinigydd arweiniol i helpu i sicrhau gwelliannau, gan gynnwys gweithredu safonau clinigol yn genedlaethol a chasglu data. Bydd yn darparu ar gyfer rheolaeth ac atebolrwydd mwy ffurfiol, a bydd y gwaith yn adeiladu ar y gwaith rhagorol a wneir gan grŵp llywio iechyd meddwl amenedigol Cymru. A hoffwn ddiolch i'r bobl hynny am eu hymrwymiad parhaus i wella mynediad ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl amenedigol. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer y rhwydwaith newydd, ac mae cyfarfodydd wedi dechrau rhwng y Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd gwladol i roi hyn ar waith yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae adroddiad y pwyllgor yn cyfeirio hefyd at yr angen i ddatblygu safonau a chanlyniadau. A phwynt a wnaed gan y Cadeirydd ac eraill oedd bod canllawiau drafft ar gyfer fframwaith safonau integredig yng Nghymru wedi'u cyflwyno i grŵp llywio Cymru yr wythnos diwethaf. Bydd y llwybr a'r safonau'n cefnogi canlyniadau mwy cyson ar gyfer menywod a'u teuluoedd ble bynnag y bônt yng Nghymru. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau i wneud cynnydd.
Ac ar hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus, mae'r grŵp llywio yn datblygu fframwaith dysgu a datblygu ar gyfer staff yma yng Nghymru. Rydym yn disgwyl i hynny gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Bydd y rhwydwaith clinigol newydd hefyd yn monitro a nodi hyfforddiant pellach i fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. A byddaf hefyd yn disgwyl i'r rhwydwaith newydd ystyried sut y mae'r ddarpariaeth bresennol yn bodloni anghenion y boblogaeth mewn perthynas â'r iaith Gymraeg.
Wrth gwrs, mae'r pwyllgor yn ymwybodol o'n hymrwymiad i ddarparu gofal arbenigol i gleifion mewnol yn ne Cymru. Rwy'n falch o gadarnhau bod prif weithredwyr y byrddau iechyd yng Nghydbwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ddydd Llun wedi cefnogi'r angen am gyfleuster i famau a babanod a gofynnodd am achosion busnes manwl ym mis Mai eleni. Nawr, gallai hynny olygu addasu adeilad sy'n bodoli eisoes ar ystâd y GIG fel mesur dros dro cyn ystyried opsiynau mwy hirdymor. Bydd angen o hyd inni ystyried sut i wneud yn siŵr fod uned newydd yn cael ei defnyddio'n briodol ac yn llawn, oherwydd lle bynnag y caiff ei lleoli yng nghoridor de Cymru, fe fydd yn eithaf pell i lawer o fenywod mewn gwirionedd. Felly, mae angen inni feddwl am yr uned mamau a babanod nid fel yr ateb, ond fel rhan o'r ateb yn ogystal â gwella ein gwasanaethau cymunedol.
Ac rwy'n falch fod y pwyllgor wedi cydnabod, er bod achos dros ddarpariaeth i gleifion mewnol yn ne Cymru, ni allwn ddweud y byddai'r ddarpariaeth yn ne Cymru hefyd yn cynnwys y gogledd yn ogystal. Felly, cafwyd cydnabyddiaeth unwaith eto nad oes niferoedd digonol yng ngogledd Cymru i gynnal gwasanaeth diogel i gleifion mewnol ar gyfer gogledd Cymru yn unig. Rwy'n cydnabod yr hyn a oedd gan y Cadeirydd i'w ddweud ar y pwynt hwn, a dywedaf yn garedig wrth yr Aelodau, ar rai o'r sylwadau a wnaed, nad ydym mewn sefyllfa i orfodi cyrff y GIG yn Lloegr i ddefnyddio cyfleuster yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Fodd bynnag, mae sgwrs yn mynd rhagddi ynglŷn â'r hyn y gellid ei wneud drwy weithio ochr yn ochr â phartneriaid yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Ac yn wir, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymchwilio i opsiynau ar gyfer hynny—gofal mewnol ar gyfer trigolion gogledd Cymru. Byddaf yn disgwyl i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a byrddau iechyd fynd ati'n gyflymach i weithio gyda'i gilydd i gytuno ar fodel gofal i gleifion mewnol dros y misoedd nesaf. I roi syniad o'r gwariant presennol: rhagwelir y bydd cost bresennol lleoliadau oddeutu £0.5 miliwn eleni, a gellid gwneud gwell defnydd ohono tuag at ddarparu gwasanaethau yma yng Nghymru. Wrth gwrs, rydym yn darparu £40 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf tuag at wasanaethau iechyd meddwl, a bydd byrddau iechyd yn ei ddefnyddio i wella gwasanaethau yn unol â chynllun cyflawni 'Law yn llaw at iechyd meddwl'.
I nodi rhai o'r argymhellion na chawsant eu derbyn lle mae gwaith eisoes ar y gweill—ar fwydo ar y fron, a grybwyllwyd yn y ddadl heddiw, ceir grŵp gorchwyl yr oeddwn yn falch o glywed cyfeiriad ato yng nghyfraniadau Julie Morgan a Hefin David, sy'n edrych ar arferion bwydo ar y fron ledled Cymru. Disgwylir iddo gyflwyno ei adroddiad ym mis Mawrth. Mae'n bwysig nad mater iechyd meddwl amenedigol yn unig ydyw. Mae yna nifer o resymau pam ein bod am ddeall yn well faint o gefnogaeth a roddwn i fenywod a phartneriaid ar gyfer bwydo ar y fron, a'r amgylchedd ehangach yn y gymdeithas yn gyffredinol, fel bod menywod yn cael eu cynorthwyo i allu bwydo ar y fron yn gyhoeddus mewn amryw o leoliadau. Rydym yn llawer rhy gyfarwydd ag achosion parhaus lle mae pobl yn anoddefgar ac yn disgwyl i fenywod symud o'r neilltu neu gael eu rhoi o ffordd y cyhoedd. Credaf fod hynny'n anghywir. Mewn gwirionedd, credaf fod angen inni lynu mwy—. Galwaf am onestrwydd a mesurau aeddfed ar amrywiaeth o wasanaethau iechyd, ac mae hwn yn bendant yn un ohonynt. Mae angen i'r cyhoedd i gyd gymryd rhan, ac mae'n beth hollol naturiol i'w wneud, ac mae angen inni gynorthwyo menywod ac eraill i wneud hynny. O ran meddyginiaeth wrth gwrs, dylid asesu mamau sy'n bwydo ar y fron a menywod beichiog sydd angen meddyginiaeth yn unigol, a rhoi cynllun gofal ar y cyd ar waith. A mater i'r menywod hynny a'u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yw gwneud dewisiadau priodol ynghylch meddyginiaeth a deall y risgiau o ddarparu meddyginiaeth neu beidio â gwneud hynny.
Ar rôl ymwelwyr iechyd, mae byrddau iechyd wedi rhoi gwasanaethau cymunedol amlddisgyblaethol ar waith. Ac mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol wedi gweithio gyda'r maes bydwreigiaeth generig a'r gwasanaeth ymwelwyr iechyd i godi ymwybyddiaeth o'r broses atgyfeirio ar gyfer iechyd meddwl amenedigol er mwyn ceisio sicrhau darpariaeth ôl-enedigaeth ddi-dor. Ac fel y cydnabu'r Cadeirydd ar y cychwyn, nid yw hon yn nodwedd anghyffredin cyn neu ar ôl rhoi genedigaeth, ac mae'n rhan o'r hyn y dylai'r gwasanaeth generig allu ei gyflawni a'i nodi. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan dystiolaeth a chyngor proffesiynol ynghylch cymysgedd sgiliau'r staff sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu'r gwasanaeth sydd ei angen ar bobl Cymru. Ac roedd yn galonogol clywed sylwadau Mark Reckless am ei brofiad ei hun pan aned babi i'r teulu yma yng Nghymru a lefel y gwasanaeth a gawsant. Ac ni ddylem golli golwg ar hynny. Mewn gwirionedd, mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo gyda'n bydwragedd a'n timau ymwelwyr iechyd yma yng Nghymru, yn rhannol oherwydd bod awydd gwirioneddol o fewn y proffesiwn i ddysgu ac i wella, ac mae'n nodwedd arbennig o'n gwasanaeth yma yng Nghymru.
Gallaf weld bod fy amser yn dod i ben, Ddirprwy Lywydd, felly rwyf ond eisiau cydnabod yn y pwynt olaf mai'r garreg filltir fawr nesaf fydd cyhoeddi prosiect ymchwil i'r gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru gan yr NSPCC, Mind Cymru a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl. Disgwylir iddo gael ei gwblhau cyn hir. Edrychaf ymlaen at ddarllen ei ganfyddiadau a ddylai roi darlun cliriach inni o sut y mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yma yng Nghymru yn diwallu anghenion teuluoedd ar hyn o bryd, a hefyd beth arall sydd angen inni ei wneud i ddeall a diwallu'r anghenion hynny'n well.