Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 6 Chwefror 2018.
Ond mae'r Prif Weinidog yn dal i ymladd ymgyrch y refferendwm. Roedd fy nghwestiwn yn un ymarferol—bod Llywodraethau a Chynulliadau rhanbarthol eraill yn gwneud rhywbeth i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit 'dim cytundeb'. Ni fydd hynny'n digwydd, os bydd yn digwydd o gwbl, oherwydd yr hyn y mae Llywodraeth y DU ei eisiau; bydd yn digwydd gan y bydd yr UE yn gwneud penderfyniad afresymol i dorri ei drwyn i ddial ar ei wyneb. Ond roedd y cwestiwn a ofynnais yn un syml. Os oes Brexit 'dim cytundeb', yn amlwg, bydd canlyniadau penodol a fyddai'n wahanol i ddod i gytundeb o ryw fath, yn dibynnu ar natur y cytundeb hwnnw. Bydd problemau o ran pontio ar ôl gadael yr UE bob amser, yn union fel yr oedd problemau pontio, fel y cofiaf yn iawn, pan ymunasom â'r UE. Felly, nid y ffaith nad oes ots o gwbl yw hi, dim ond bod economïau yn addasu yn yr hirdymor. Ond rwy'n dychwelyd at fy nghwestiwn: os oes Cynulliadau eraill o'r math hwn a Llywodraethau ar draws gweddill yr Undeb Ewropeaidd—[Torri ar draws.] Os gwnaiff ei Aelodau roi'r gorau i rwgnach, a'r prif rwgnachwr yn y fan yna yn arbennig, yna efallai y gallaf i ddod i'm cwestiwn. Mae'n ddrwg gen i wneud eich gwaith chi, Llywydd; nid oeddwn i'n bwriadu gwneud hynny.