Mawrth, 6 Chwefror 2018
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Cyn cychwyn ar y cwestiynau, rwy'n galw ar y Prif Weinidog.
Cwestiynau nawr i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Rhun ap Iorwerth.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys yn Ynys Môn? OAQ51736
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth ariannol sydd wedi cael ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ51731
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r gronfa buddsoddi i arbed o fudd i Orllewin De Cymru? OAQ51705
4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chyrff sector cyhoeddus i wella y broses o ymdrin ag achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol? OAQ51725
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sgrinio serfigol yng Nghymru? OAQ51733
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganiatâd cynllunio a newid defnydd o ran tafarndai yng Nghymru? OAQ51734
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad ariannol cynghorau tref a chymuned yng Nghymru? OAQ51732
8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51720
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o drafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51728
10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau cymorth llywodraeth leol i bobl hŷn? OAQ51698
11. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y diwydiant fferyllol yng Nghymru? OAQ51716
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Byddwn yn symud ymlaen yn awr at y datganiad gan y Prif Weinidog ar bolisi masnach Cymru. Galwaf ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar fynd i'r afael â chysgu ar y stryd a digartrefedd. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 'Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru 2016-17'. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud...
Yr eitem nesaf, felly, yw datganiad gan arweinydd y tŷ ar ganmlwyddiant y bleidlais i fenywod. Rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud y datganiad—Julie James.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar sut y mae technoleg ddigidol yn gwella gofal sylfaenol. Galwaf ar yr Ysgrifennydd...
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia