Caniatâd Cynllunio a Thafarndai

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 6 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:05, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Rydym ni'n cydnabod y cyfraniad pwysig y mae tafarndai yn ei wneud i gymunedau. Rydym ni'n gweithio gyda grwpiau cymunedol a chynrychiolwyr eraill, gan gynnwys yr Ymgyrch Dros Gwrw Go Iawn—rwy'n datgan buddiant fel aelod—ar y ffordd orau o ddiogelu safleoedd a chyfleusterau ac i helpu i ddod â phobl at ei gilydd. Rwyf i wedi dweud erioed mai casgliad o dai yw cymuned heb dafarn. Yn aml iawn, rwyf i wedi gweld hyn yn digwydd yn fy rhan i o'r byd. Byddwn yn ymgynghori ar adolygiad o'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) ym mis Mai, gyda'r bwriad o ystyried sut y gallwn ni ddiogelu ein tafarndai yn well.