Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 6 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:48, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, mater i'r pennaeth diogelwch yw penderfynu ar yr hyn sy'n dystiolaeth berthnasol yn ei farn ef. Yn ail, mae unrhyw e-bost a anfonir ataf i at fy e-bost personol, y ceir mynediad ato trwy beiriant Llywodraeth yn unig beth bynnag, yn cael ei gofnodi. Cofnodir unrhyw e-bost yn y modd hwnnw. Felly, rydym ni'n gwybod o ddyfarniad Gove bod unrhyw e-bost a anfonir i beiriant Llywodraeth yn destun cais rhyddid gwybodaeth beth bynnag. Ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei wybod, ond fel y dywedaf, darparwyd yr holl wybodaeth berthnasol i'r ymchwiliad.