Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 6 Chwefror 2018.
Ond Prif Weinidog, roedd hwnnw'n argymhelliad penodol—galwad am weithredu gan eich Llywodraeth chi, nid Llywodraeth y DU.
Symudaf ymlaen at gwestiwn yr undeb tollau nawr. Os byddwn ni'n tynnu allan o'r undeb tollau, bydd yn rhaid i'r DU negodi ei chytundebau masnach rydd ei hun. Gallai cytundebau masnach y tu allan i'r UE a'r undeb tollau gael effaith sylweddol ar ein heconomi. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â hynny. Gofynnwyd i chi ddoe a oeddech chi'n credu y dylai Cymru gael feto ar gytundebau masnach o'r fath fel y Senedd yn Wallonia yng Ngwlad Belg, ac wrth ateb y cwestiwn hwnnw, dywedasoch 'na ddylai'—nid yn unig o ran feto, ond na ddylid dod i gytundeb gyda gweddill y DU. Dywedasoch y dylid ymgynghori â ni. Prif Weinidog, eich dyletswydd chi yw amddiffyn economi Cymru rhag Brexit Dorïaidd eithafol. Pam ydych chi'n gwrthwynebu rhoi llais i'r Cynulliad hwn o ran cytundebau masnach?