Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 6 Chwefror 2018.
Diolch, Prif Weinidog. Er gwaethaf y llythyrau a anfonwyd at yr holl fenywod cymwys yng Nghymru ar gyfer sgrinio serfigol, mae ffigurau diweddar yn awgrymu y bu gostyngiad mewn cyfranogiad. Canfu Jo's Cervical Cancer Trust fod nifer y menywod sy'n cael ei sgrinio ar ei isaf ers 10 mlynedd yng Nghymru. Yn benodol, tynnodd yr elusen sylw at bryderon ynghylch nifer y menywod rhwng 25 a 29 oed sy'n cael eu sgrinio. Gyda'r canfyddiad bod sgrinio serfigol yn atal 70 y cant o achosion o ganser serfigol rhag datblygu, beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i hyrwyddo ac annog menywod i gael prawf a allai achub eu bywydau?