Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 6 Chwefror 2018.
Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gynghorau tref neu gymuned sydd â phrif weithredwr, mae'n rhaid i mi ddweud. Rwy'n ymwybodol o'r rheini sydd â chlercod, ac mae rhai yn llawn amser a rhai yn rhan-amser. Rwy'n credu bod cynghorau tref a chymuned yn lefel hynod werthfawr o lywodraeth. Os yw'r Aelod yn awgrymu y dylem ni ddiddymu, er enghraifft, Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr neu Gyngor Tref Porthcawl, yna mae croeso iddo esbonio hynny i unrhyw—[Torri ar draws.]—ar wahân i'r Rhondda, wrth gwrs, lle nad oes unrhyw gynghorau cymuned—mae croeso iddo ddod ac esbonio hynny iddyn nhw. Yr hyn sy'n bwysig yw nid ein bod ni'n dileu lefel gyfan o lywodraeth leol, ond ein bod ni'n ceisio dod o hyd i ffyrdd o gryfhau'r lefel honno yn y dyfodol.