Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 6 Chwefror 2018.
Mae ein strategaeth dwristiaeth yn nodi ein blaenoriaethau i gefnogi'r diwydiant twristiaeth ledled Cymru gyfan. Mae hynny'n cynnwys ymgyrchoedd marchnata yn y DU a thramor, cyllid datblygu cyfalaf ar gyfer busnesau twristiaeth newydd a phresennol, ynghyd â chyllid refeniw ar gyfer cynhyrchion rhanbarthol.