Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 6 Chwefror 2018.
Yn 2013-14, dyfarnwyd cyllid i Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru ar gyfer llyfryn bywyd gwyllt rhyngweithiol, a dyfarnwyd £15,000 i ymddiriedolaethau bywyd gwyllt de a gorllewin Cymru ar gyfer Antur yng Nghymru Wyllt yn 2015. Yn 2016-17, dyfarnwyd £30,000 i ymddiriedolaethau bywyd gwyllt de a gorllewin Cymru ar gyfer Anturiaethau a Chwedlau Cymru Wyllt, a dyfarnwyd £100,000 ar gyfer 2017, hefyd i ymddiriedolaethau bywyd gwyllt de a gorllewin Cymru, ar gyfer prosiectau See Wild Wales Lonely Planet. Dyna bedair enghraifft o'r cymorth a roddwyd gan y Llywodraeth i hyrwyddo ein treftadaeth naturiol ardderchog.