Y Diwydiant Fferyllol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 6 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:18, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Byddai, mi fyddai; yn ogystal â llawer o sectorau eraill, byddai hynny'n wir. Yn hytrach na chael bargen fasnach i un sector, hoffwn i weld trefniant cynhwysfawr lle'r ydym ni'n aros o fewn y farchnad sengl, gan ddileu'r angen am fargen fasnach â 'n partneriaid Ewropeaidd, a hefyd wrth gwrs o fewn yr undeb tollau. Mae'r holl dystiolaeth sydd wedi'i chyhoeddi hyd yma, hyd yn oed gan Lywodraeth y DU, yn awgrymu mai hynny yw'r canlyniad doethaf mewn gwirionedd. Mae'r rhai nad ydyn nhw'n cytuno ag ymchwil empirig yn ceisio awgrymu bod y gwaith ymchwil hwnnw yn anghywir.