Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 6 Chwefror 2018.
Ar y mater cyntaf pwysig iawn, clywodd Ysgrifennydd y Cabinet eich sylwadau yn sicr, ac os oes gennych chi enghreifftiau penodol sy'n eich arwain i'r casgliad bod yr ymgynghoriad hwnnw yn rhy fyr, yna rwy'n awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet gan nodi'r enghreifftiau hynny. Mae'n dangos ei barodrwydd i'w hystyried.
Ac ar yr ail, rwy'n credu y gallwch chi glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn gwadu'n chwyrn ei fod wedi dweud unrhyw beth o'r fath. Felly, nid wyf yn credu bod unrhyw angen am ddatganiad dilynol.