Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 6 Chwefror 2018.
Wel, rydym ni'n cyhoeddi'r holl wybodaeth y mae'r Aelod yn ei defnyddio yn y fan yna yn rheolaidd iawn. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yma i glywed eich pryderon, a gwnaethoch godi nifer o bwyntiau pwysig yn y fan yna sy'n destun cryn drafodaeth rhwng ef a minnau, ar y mater cydraddoldeb, er enghraifft, a'r defnydd mewn gwahanol gymunedau ac ati. Rydym yn sicr wedi clywed hynny a byddwn i'n hapus iawn i siarad â'r Aelod am y ffordd orau o sicrhau bod pob cymuned yng Nghymru yn cael eu gwasanaethu.