2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 6 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:45, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Neil McEvoy, 'dyw gweiddi ddim yn gwneud eich pwynt gwleidyddol i chi, ac nid yw ceisio gwahaniaethu wrth ymosod ar grŵp ethnig penodol yn eich helpu i wneud eich pwynt, ychwaith. Felly, rwy'n gofyn ichi wneud y pwynt gwleidyddol yr hoffech chi ei wneud, ond gwnewch hynny mewn iaith sy'n briodol i'r Siambr hon. 'Dyw gweiddi yn sicr ddim yn briodol.