Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 6 Chwefror 2018.
Mae'r Aelod yn codi pwynt hynod bwysig. Mae'r M4 o gwmpas Abertawe wedi cael nifer o anawsterau yn ddiweddar ar sail barhaus, yr ydym ni i gyd, rwy'n siŵr, yn ymwybodol ohonynt, yn enwedig y rhai ohonom ni sy'n dod o'r ardal honno. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych ar amrywiaeth o fesurau ar hynny a bydd yn diweddaru'r Senedd pan fydd y gwaith hwnnw wedi'i wneud.