Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 6 Chwefror 2018.
Dim ond un eitem yr wyf eisiau ei chodi, ac rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gael dadl y Llywodraeth ar wasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar, y mae ei datganiadau a'i deddfwriaeth yn eu cefnogi yn barhaus ac yn briodol, ond yn ymarferol mae ei gweithredoedd yn lleihau'r gwasanaethau hyn ar gost ychwanegol enfawr i'n gwasanaethau iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol, sydd ar lefel argyfwng. Yr wythnos diwethaf, clywsom siom gan y Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd dros addysg bod Afasic Cymru yn cau, er bod y penderfyniad i gau Afasic Cymru wedi ei orfodi ar ei ymddiriedolwyr gan benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar y grant cyflawni ar gyfer plant a theuluoedd a symud y cyllid i fannau eraill. Afasic Cymru yw'r unig elusen sy'n cynrychioli teuluoedd plant sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yng Nghymru, ac yn y gogledd yn unig mae wedi cefnogi cannoedd o deuluoedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan dynnu pwysau oddi ar y gwasanaethau statudol, a gwella bywydau.
Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi mynegi pryder bod y cyllid uniongyrchol y mae'n ei gael gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng o £355,000 am wasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, i ddim ond £34,000 yn y flwyddyn ariannol bresennol, ac er bod y cyllid i fod i gael ei drosglwyddo i'r byrddau iechyd rhanbarthol, maen nhw'n dweud nad yw hyn wedi digwydd. Ddydd Gwener diwethaf, es i i'r arddangosfa Achub Grant Byw'n Annibynnol Cymru, i ddangos fy nghefnogaeth i'r ymgyrch, a arweinir gan Nathan Lee Davies yn Wrecsam, oherwydd eu bod yn cydnabod bod cynlluniau Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar glustnodi arian yn golygu y bydd perygl i allu pobl anabl sydd ag anghenion gofal a chymorth uchel fyw yn annibynnol, gan y bydd yr arian yn hytrach yn mynd heb ei glustnodi i awdurdodau lleol. Codwyd pryderon tebyg yn uchel ac yn gyson gyda chi gan y gymuned cymorth sy'n gysylltiedig â thai ynghylch Cefnogi Pobl, ar ôl ichi ysgrifennu at awdurdodau lleol i ddweud y byddwch chi'n dod â'r clustnodi i ben ar gyfer Cefnogi Pobl, a rhoi iddynt yr hyblygrwydd gwario sydd ar hyn o bryd yn mynd i wasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar.
Ac yn olaf, fe soniaf am un enghraifft arall. Y llynedd, fe wnaethoch ddileu neu dynnu £5.5 miliwn oddi ar y Gronfa Teulu ar gyfer teuluoedd agored i niwed sydd â phlant anabl, sy'n golygu bod nifer y teuluoedd a gefnogir eleni wedi gostwng o 5,429 i 875 yn unig, a dywedodd y mwyafrif nad ydynt yn cael y cymorth bellach, nad oes unrhyw gymorth arall ar gael iddynt. Mae'r arbed arian ffug hwn yn ychwanegu degau, os nad cannoedd o filiynau o bunnoedd a phwysau ar ein gwasanaethau cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd. Mae'n mynd yn gwbl groes i ysbryd eich deddfwriaeth a'ch camau gweithredu sy'n gysylltiedig ag atal ac ymyrraeth gynnar, ac rwy'n eich annog i gael dadl fel y gallwn ni drafod hyn yn llawn, gyda'r gobaith y gallwn ni gytuno ar ffordd i ddechrau adfer y cymorth i'r prosiectau sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth yn y cymunedau ac i deuluoedd ledled Cymru.