Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 6 Chwefror 2018.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar ' Y Polisi Masnach: Materion Cymru' cyn bo hir, ac yn ddiweddarach y prynhawn yma byddaf yn gwneud datganiad ar ganmlwyddiant rhoi'r bleidlais i fenywod. Mae busnes y tair wythnos nesaf i'w weld ar y datganiad a chyhoeddiad busnes a welir ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.