2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 6 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:38, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, bydd y Gweinidog gwasanaethau cyhoeddus, sy'n cadeirio tasglu'r Cymoedd, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ar ôl y cylch presennol o gyfarfodydd, ac mae un arall ddydd Llun, er enghraifft. Mae nifer ohonom ni'n aelodau o dasglu'r Cymoedd, a bwriad pendant tasglu'r Cymoedd yw adrodd yn ôl yn rheolaidd i'r Senedd, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf, fel y dywed yr Aelod.