4. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Mynd i'r Afael â Chysgu ar y Stryd a Digartrefedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 6 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:35, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Mae angen cartref boddhaol ar bob un ohonom ni os ydym ni'n mynd i wireddu ein potensial a mwynhau lles sylfaenol. Mae miloedd o aelwydydd wedi osgoi digartrefedd drwy'r dull ataliol sy'n ofynnol o dan ein deddfwriaeth Deddf Tai (Cymru) 2014, sy'n destun cenfigen gwledydd eraill. Ond mae gennym ni lawer eto i'w wneud. Rydym ni i gyd wedi gweld pobl yn byw ar y strydoedd, ac, heb unrhyw amheuaeth, mae'r niferoedd wedi cynyddu. Pan rwy'n siarad gyda'r bobl rwy'n cyfarfod â nhw, rwy'n clywed straeon gofidus am deuluoedd yn chwalu, trais domestig, iechyd meddwl gwael, problemau ariannol, camddefnyddio sylweddau a phrofedigaeth. Gall y materion hyn achosi i bobl golli eu cartrefi, ond yna fe allan nhw greu cylch dieflig wedyn, gan arwain at gysgu ar y stryd. Yn rhy aml o lawer, caiff pobl eu dal yn y sefyllfa hon, ac efallai y caiff eu ffydd mewn gwasanaethau ei danseilio, a daw eu bywydau yn fwy anhrefnus. Cyhoeddwyd y datganiad ystadegol cenedlaethol ynglŷn â chysgu ar y stryd yr wythnos diwethaf, sy'n dangos canlyniadau cyfrif mis Tachwedd 2017. Mae'r ffigurau'n dangos bod yr amcangyfrif pythefnosol wedi cynyddu 10 y cant o'i gymharu â 2016, ac mae cipolwg ar un noson yn dangos cynnydd o 33 y cant. Mae hyn yn siomedig yn wyneb ein hymdrechion a'n buddsoddiad, ond nid yn annisgwyl, ac rwy'n credu i raddau helaeth bod hyn yn adlewyrchu effeithiau cynyddol cyni parhaus, mwy o dlodi ymysg pobl mewn gwaith, a diwygio lles.

Mae'r £2.6 miliwn a gyhoeddwyd yr haf diwethaf yn ariannu amrywiaeth o brosiectau arloesol, gan gefnogi anghenion pobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae'r rhaglen PATH, a gynlluniwyd ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymorth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ceisio sefydlu ffordd o ddarparu gwasanaethau cyngor a chymorth tai sy'n seiliedig ar seicoleg. Bu ymateb cadarnhaol iawn i'r rhaglen hyfforddi hon, i helpu gweithwyr proffesiynol yn y sector i gynyddu eu gallu i ymwneud yn ystyrlon â phobl sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth. Erbyn diwedd mis Ebrill, byddwn ni wedi rhoi hyfforddiant i 1,000 o staff cymorth ledled Cymru.

Rydym ni'n ariannu 10 prosiect arbrofol Tai yn Gyntaf. Mae tystiolaeth o lwyddiant y dull Tai yn Gyntaf yn hysbys iawn, ond nid yw'n gweithio i bawb. Fodd bynnag, gall fod yn gyfrwng i gynnig cartref sefydlog a chael bywydau yn ôl ar y trywydd iawn. Mae'r Wallich, er enghraifft, wedi bod yn darparu gwasanaeth Tai yn Gyntaf yn Ynys Môn ers rhai blynyddoedd, yn cefnogi pobl gydag anghenion cymhleth i gael a chynnal eu tenantiaeth. Rydym ni wedi ariannu ymchwil, y byddwn ni'n cyflwyno adroddiad yn ei gylch dros yr ychydig fisoedd nesaf, yn gwerthuso effaith rhan 2 y Ddeddf Tai, ac effaith y ddeddfwriaeth ar gyn-garcharorion. Bydd Shelter Cymru yn adrodd ar brofiadau pobl sy'n cysgu ar y stryd yn ein dinasoedd, a bydd y dystiolaeth hon yn ychwanegu at y corff o wybodaeth megis yr adroddiad Crisis diweddar ynglŷn â beth sy'n gweithio yn eu mesurydd digartrefedd. 

Mae gennym ni sylfaen gadarn ar gyfer ein camau nesaf, gan weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu polisi, arferion a chanllawiau, gan fanteisio ar y dystiolaeth ryngwladol orau, ac ategu hyn gyda'n hymchwil gweithredu ein hunain. Mae gennym ni'r arian i fuddsoddi mewn rhaglenni a dulliau sy'n gwneud gwahaniaeth. Bydd awdurdodau lleol yn cael £6 miliwn yn ychwanegol yn eu setliadau refeniw. Byddaf yn gweithio gyda llywodraeth leol i sicrhau bod hyn yn darparu'r cyllid hirdymor sicr y galwodd Swyddfa Archwilio Cymru amdano yn ddiweddar. Caiff £2.8 miliwn ychwanegol ei roi i awdurdodau lleol er mwyn adeiladu ar y gwaith ataliol statudol, gyda phwyslais ar ei gwneud hi'n haws cael mynediad i'r sector rhentu preifat, defnyddio arferion sy'n seiliedig ar ddeall trawma, atgyfnerthu gwasanaethau i bobl ag afiechyd meddwl a/neu broblemau camddefnyddio sylweddau—gan gynnwys gwella gweithio ar y cyd rhwng y gwasanaethau tai ac iechyd meddwl a'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau—a gweithredu i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc a lleihau cysgu ar y stryd. Pan rwy'n siarad â gweithwyr rheng flaen, dro ar ôl tro rwy'n clywed y neges mai cael to uwch eich pen yw'r peth hawdd. Mae angen help ar bobl i oresgyn dyled, ymdrin ag effeithiau cam-drin domestig, afiechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. A bydd y materion hyn, os na chawn nhw eu datrys, yn arwain at ddigartrefedd mynych. 

Heddiw, rwy'n falch o gael lansio dwy ddogfen bolisi newydd. Mae'r naill yn nodi egwyddorion ar gyfer datblygu'r rhaglen Tai yn Gyntaf ledled Cymru. Cynllun gweithredu yw'r llall i leihau cysgu ar y stryd. Ac mae'r rhain yn ddogfennau fydd yn esblygu. Byddan nhw'n gosod sail ar gyfer trafod a gweithredu ar draws y sector. Byddant yn newid wrth inni gael mwy o dystiolaeth o beth sy'n gweithio, ac fe allan nhw adeiladu ar lwyddiannau. Rydym ni wedi datblygu ein hegwyddorion Tai yn Gyntaf drwy weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys y Wallich ac awdurdodau lleol. Ceir tystiolaeth gref fod Tai yn Gyntaf yn gweithio, ond mae'n gweithio orau lle y dilynir egwyddorion craidd: tai heb unrhyw ymrwymiadau eraill, bod gwasanaethau cymorth ar gael ar unwaith, a chronfa fechan i helpu diwallu anghenion unigol. Mae'r ddogfen egwyddorion yn amlinellu'r egwyddorion hyn, a bydd fy swyddogion a minnau yn gweithio gyda phartneriaid allweddol dros y misoedd nesaf i ystyried sut orau i ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym ni ar hyn o bryd i gefnogi'r gwaith o ddarparu rhaglenni yn seiliedig ar yr egwyddorion hyn.

Mae'r cynllun gweithredu yn adlewyrchu pa mor benderfynol yr wyf i, a'n partneriaid, i leihau'n sylweddol nifer y bobl sy'n cael eu gorfodi i gysgu ar y strydoedd. Datblygwyd y cynllun hwn ar y cyd â rhanddeiliaid megis Shelter Cymru ac aelodau Rough Sleepers Cymru. Mae'n ddogfen weithio ddeinamig ac esblygol, fydd yn cael ei hadolygu'n barhaus a'i haddasu fel bo angen. Mae'r ddogfen yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau, yn cefnogi pobl i elwa ar wasanaethau a dod oddi ar y strydoedd mor gyflym â phosib. Mae hefyd yn ymdrin â materion ehangach fel adolygiad o anghenion blaenoriaethol a'n canllawiau ynglŷn â chynlluniau tywydd oer.

Un agwedd ar ddigartrefedd yw cysgu ar y strydoedd, ac ni allwn ni ond ymdrin o ddifrif â'r mater os oes gennym ni system sy'n cynnig tai diogel i bawb. Gall codi cartrefi ar y farchnad ac ehangu'r stoc tai cymdeithasol ond cyflawni'r amcan hwn i ryw raddau yn unig. Byddaf yn gweithio gyda'r sector rhentu preifat i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o fanteisio ar eu cyflenwad ac ateb y galw. Byddaf hefyd yn edrych ar sut y gallwn ni barhau i leihau nifer y cartrefi gwag. Mae'r cyllid a gyhoeddwyd yn y gyllideb i'w groesawu, ond rhaid inni ei wario'n ofalus. Nid wyf i'n fwriadol wedi disgrifio sut y bydd pob ceiniog yn cael ei wario. Rwy'n bwriadu adolygu'r cynnydd a'r dystiolaeth o'r cynlluniau arbrofol ochr yn ochr ag adroddiadau ymchwil yn y gwanwyn a'r haf. Byddaf hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i ystyried beth sydd ei angen fwyaf er mwyn datblygu sut yr ydym ni'n mynd ati i ymdrin â chysgu ar y stryd.

Rydym ni i gyd yn cydnabod yr heriau o ran darparu gwasanaethau cydweithredol. Bydd hynny'n gofyn am ffyrdd newydd o weithio a newid diwylliannol sylweddol. Rwy'n credu bod gennym ni hanes llwyddiannus o gyflawni o ran atal digartrefedd. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i roi'r arweinyddiaeth i sicrhau ein bod yn lleihau nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd a bod yr angen i bobl gysgu ar y stryd yn dod i ben. Diolch.