Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 6 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr ichi am hynny. Rwy'n hapus iawn, iawn, bod y pwyllgor yn edrych yn fanwl ar y mater penodol hwn, ac mae e'n bwysig, oherwydd, fel yr ydym ni wedi'i weld drwy'r datganiad, mae'n debyg, mae yna gwestiynau, ac nid oes atebion i rai o'r cwestiynau hyd yn hyn. Er enghraifft, y cwestiwn hwnnw ynghylch pam, hyd yn oed ar y nosweithiau oeraf, y ceir gwelyau gwag mewn rhai o'n hosteli a darpariaethau eraill.
Roeddwn i mewn cymhorthfa leol, un o fy nghymorthfeydd yn y Gŵyr, dros y Sul, a daeth gwraig i mewn a dweud bod ei heglwys y llynedd wedi darparu 10 gwely yn ystod cyfnod oer i bobl ddigartref ac roeddent yn llawn. Fodd bynnag, eleni, ni fanteisiodd neb ar y 10 gwely hynny, ac, er ein bod yn deall bod graddau digartrefedd wedi cynyddu ac y bu hi'n yn oer iawn, yn yr un modd, ymddengys bod diffyg cyfatebiaeth o ran parodrwydd pobl nawr, mae'n debyg, i fanteisio ar rai o'r gwasanaethau hynny sydd ar gael. Felly, credaf y bydd y ffaith bod y pwyllgor yn edrych ar y mater penodol hwn, ynghyd ag eraill, yn ddefnyddiol iawn o ran ein helpu i lunio'r ffordd ymlaen.