Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 6 Chwefror 2018.
Mae'r adroddiad yn amlinellu bod disgwyliad oes cyffredinol yng Nghymru yn parhau i godi, hyd at 78.4 ar gyfer dynion ac 82.3 oed i fenywod. Mae'r rhan fwyaf o oedolion yn dweud eu bod mewn iechyd cyffredinol da, gyda dros 72 y cant o bobl dros 16 oed mewn iechyd 'da iawn' neu 'da'. Ac mae ein cyfradd marwolaethau babanod o 3.7 ym mhob 1,000, yn parhau'n isel mewn termau hanesyddol.
Fel yr ydym ni wedi trafod droeon ar lawr y Siambr hon, mae yna lawer o ffactorau sy'n effeithio ar iechyd y genedl. Mae gofal iechyd o ansawdd uchel yn un ohonyn nhw, wrth gwrs, ond ceir amrywiaeth eang o ffactorau cymdeithasol, megis tai, addysg, swyddi o ansawdd a'r amgylchedd, sy'n chwarae rhan hyd yn oed yn fwy. Ceir nifer sylweddol o fygythiadau iechyd cyhoeddus bob blwyddyn hefyd, ac mae adroddiad Dr Atherton yn amlygu llwyddiannau sylweddol wrth ymdrin â hyn. Un o'r enghreifftiau a ddyfynnir ynddo yw effaith cyflwyno'r rhaglen driniaeth hepatitis C i Gymru gyfan. Mae llwyddiant y rhaglen hon wedi golygu ein bod ni yng Nghymru, erbyn hyn, wedi trin neu'n rhoi triniaeth i'r holl gleifion sy'n hysbys i'r gwasanaethau hepatoleg ac oedd yn fodlon cael eu cyfeirio atyn nhw, a'u bod yn parhau i gael gofal, neu, yn symlach, rydym ni ar y blaen i bob cenedl arall yn y DU o ran trin a gobeithio dileu hepatitis C. Mae hynny yn achos dros gydnabod a diolch i'r grŵp hwnnw o glinigwyr sy'n arwain y gwaith hwnnw.
Mae hefyd yn cyfeirio at unigolion sydd wedi'u heintio ag HIV yn elwa ar therapïau gwrth-retrofeirysol fel y gallan nhw fyw bywyd mor iach â phosibl. Mae'n nodi bod nifer yr achosion newydd o HIV mewn unrhyw flwyddyn yn mynd ar i lawr erbyn hyn, a bod nifer yr unigolion sy'n cael profion bob blwyddyn yn cynyddu. Mae cynnal profion yn hanfodol bwysig erbyn hyn gan fod proffylacsis cyn dod i gysylltiad neu PREP ar gael i bawb sy'n cael sêl bendith glinigol. Rwyf i yn edrych ymlaen at ganlyniadau'r cyfnod treialu PREP maes o law wrth i ni gyflwyno cynllun treialu fydd yn un wirioneddol genedlaethol.
Mae'r adroddiad hefyd yn blaenoriaethu camau gweithredu ar gyfer ein rhaglenni tymhorol ar gyfer imiwneiddio rhag y ffliw ac imiwneiddio plant, a fydd yn angenrheidiol i sicrhau bod y rhaglenni hynny yn parhau i fod yn destun eiddigedd y byd.
Er y gellir ystyried bod clefydau trosglwyddadwy yn fygythiad iechyd cyhoeddus traddodiadol, mae Dr Atherton hefyd yn defnyddio ei adroddiad i amlygu'r risg i iechyd cyhoeddus sy'n datblygu yn sgil hapchwarae problemus. Mae'n canolbwyntio ar y niwed y gall hapchwarae ei achosi, nid yn unig i hapchwaraewyr unigol ond hefyd teulu, ffrindiau a'r gymdeithas yn gyffredinol; niwed a all gynnwys caledi ariannol, gofid seicolegol, a chwalfa perthynas bersonol ag eraill.
Mae'r adroddiad yn nodi nifer yr achosion o hapchwarae. Dim ond naw gwlad yn y byd sy'n gwario mwy y pen ar hapchwarae na'r DU. Yng Nghymru, mae 61 y cant o oedolion wedi hapchwarae yn ystod y 12 mis diwethaf: 63 y cant o ddynion a 59 y cant o fenywod. Amcangyfrifir bod 450,000 o blant rhwng 11 a 15 oed yn cymryd rhan mewn rhyw fath o hapchwarae bob wythnos ledled Cymru a Lloegr. Mae hynny'n cyfateb i 16 y cant o'r grŵp oedran hwnnw; mae 1.1 y cant o'n poblogaeth yn dweud eu hunain bod ganddynt broblem hapchwarae ac amcangyfrifir bod 3.8 y cant arall o bobl yng Nghymru mewn perygl o fod â phroblem hapchwarae. Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu bod y niwed yn sgil hapchwarae yn anghyfartal o ran ei ddosbarthiad. Pobl sy'n economaidd anweithgar ac sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig sydd fwyaf tebygol o ddioddef y niwed mwyaf.
Mae Dr Atherton yn rhoi sylwadau ynghylch natur esblygol y diwydiant hapchwarae, ei farchnata a'i gynhyrchion. Nid yw hapchwarae yn digwydd dim ond mewn safleoedd traddodiadol megis arcedau, neuaddau bingo neu draciau rasio mwyach. Wrth gwrs, y dull o hapchwarae sy'n tyfu gyflymaf yw mentro ar-lein, sydd ar gael 24 awr y dydd, ar gael ar gyfrifiaduron, ffonau symudol neu dabledi. Yn y DU, mae bron i 9 miliwn o oedolion wedi mentro ar-lein yn ystod y pedair wythnos diwethaf. Yng Nghymru, nodwyd bod gan 9.2 y cant o hapchwaraewyr ar-lein a arolygwyd broblem hapchwarae.
Noda Dr Atherton yr achos o blaid dull iechyd cyhoeddus o ymdrin â hapchwarae—dull o weithredu sy'n ceisio mynd i'r afael ag anghyfartaledd y niwed. Mae'n galw am amrywiaeth o gamau i leihau niwed sy'n gwneud mwy na chanolbwyntio ar unigolion yn unig, sydd hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o fesurau, gan gynnwys eiriolaeth, gwybodaeth, rheoleiddio a gwaharddiadau priodol mewn ffordd gydgysylltiedig. Wrth wneud hynny, mae Dr Atherton yn cydnabod bod hapchwarae yn cael ei reoleiddio yn bennaf ar lefel Llywodraeth y DU, gyda nifer o gyrff y DU yn gyfrifol am wahanol agweddau ar hapchwarae. Bydd ymateb effeithiol i'r niweidiau a achosir gan hapchwarae yn ei gwneud hi'n ofynnol llunio ymateb cydgysylltiedig.
Gwn fod nifer o'r Aelodau yn y lle hwn wedi dangos diddordeb mawr yn y broblem hapchwarae a'r angen i gynorthwyo hapchwaraewyr sydd â phroblem, yn ogystal ag ymdrin â pha mor gyffredin yw hapchwarae a pha mor rhwydd yw gwneud hynny. Yn ddiamau, byddwch yn ymuno â mi i groesawu'r adroddiad ystyriol hwn sy'n tynnu sylw at y risgiau ac yn cynnig argymhellion ar gyfer gweithredu. Byddaf i'n sicr yn ymuno â Dr Atherton a rhanddeiliaid perthnasol i ystyried y ffordd orau o ddatblygu'r argymhellion hynny, nid yn unig drwy ein galwadau am weithredu effeithiol ar lefel y DU; yn ogystal â hyn, byddwn yn ceisio defnyddio unrhyw bwerau newydd yng Nghymru mewn ffordd synhwyrol a chymesur i leihau'r niwed a achosir gan broblemau hapchwarae. Edrychaf ymlaen at ateb cwestiynau'r Aelodau. Diolch i chi.