Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:41, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno bod angen asesu a mesur unrhyw strategaeth neu gynllun gwella dros amser. Golyga hyn fod yn rhaid i'r Llywodraeth roi dangosyddion economaidd sy'n hwyluso'r dadansoddiad hwn ar waith. Wrth gwrs,mae a wnelo hyn â'r sector cyhoeddus, sy’n enwog am fod yn anghynhyrchiol, lawn cymaint â’r sector preifat. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi amlinelliad inni o unrhyw ffigurau targed neu strategaethau sydd ganddo ar waith i fesur y cynnydd a wneir, neu fel arall?