1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 7 Chwefror 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn anffodus, ar hyn o bryd, Cymru sydd â'r cynhyrchiant isaf o unrhyw un o wledydd y DU, sef 83 y cant yn unig o gyfartaledd y DU. Mae economegwyr wedi nodi bod gwella cynhyrchiant yn hollbwysig i'n dyfodol economaidd. A all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei gynlluniau i wella lefelau cynhyrchiant yng Nghymru?
Gallaf, yn sicr. Mae'r Llywodraeth hon a Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod yr her o ran cynhyrchiant yn rhan hanfodol o'n strategaethau diwydiannol ac economaidd. O ran yr hyn rydym yn ei wneud, rydym yn edrych ar y ffactorau sy'n cyfrannu at y broses o sicrhau bod yr economi yn fwy cynhyrchiol. Yng Nghymru, rydym wedi dadansoddi'r ffactorau hynny ac wedi canfod bod codi lefelau sgiliau a chynyddu buddsoddiad mewn seilwaith modern a sicrhau bod y technegau rheoli cywir ar waith gennym yn hollbwysig wrth ddatblygu economi fwy cynhyrchiol. Ond rydym hefyd yn cydnabod bod yr economi yn newid ar fyrder a bod angen inni newid siâp yr economi er mwyn denu mwy o fuddsoddiad a fydd yn seiliedig ar ddiwydiannau uwch-dechnoleg y dyfodol. Ac mae angen inni hefyd ystyried y ffaith, os oes gennych weithlu lle mae'r lles yn wael a lle na all y gweithwyr wneud y cyfraniad yr hoffent ei wneud yn ystod eu diwrnod gwaith, y bydd hynny'n effeithio ar gystadleurwydd a chynhyrchiant y busnes. Felly, drwy ein contract economaidd, ac wedyn, drwy'r galw am weithredu, rydym yn mynd i’r afael â’r problemau sy'n llesteirio ein heconomi, yn benodol, yr her y mae angen mynd i'r afael â hi ar frys o ran cynhyrchiant.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno bod angen asesu a mesur unrhyw strategaeth neu gynllun gwella dros amser. Golyga hyn fod yn rhaid i'r Llywodraeth roi dangosyddion economaidd sy'n hwyluso'r dadansoddiad hwn ar waith. Wrth gwrs,mae a wnelo hyn â'r sector cyhoeddus, sy’n enwog am fod yn anghynhyrchiol, lawn cymaint â’r sector preifat. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi amlinelliad inni o unrhyw ffigurau targed neu strategaethau sydd ganddo ar waith i fesur y cynnydd a wneir, neu fel arall?
Rydym yn sicrhau bod ein dangosyddion yn gyson ar draws y Llywodraeth. Felly, bydd y dangosyddion lles yn cael eu defnyddio gyda'n hymyriadau yng nghyswllt datblygiad economaidd, ond fel rwyf wedi’i ddweud eisoes yn y Siambr hon, rwyf hefyd yn awyddus i weld cryn her ryngwladol mewn perthynas â gweithgarwch y Llywodraeth hon. Felly, rydym wedi agor trafodaethau gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Rwyf hefyd yn bwriadu agor trafodaethau gyda Fforwm Economaidd y Byd ynglŷn â sut y gallant herio a phrofi effeithiolrwydd ein cynllun gweithredu economaidd.
Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond o ystyried y ffigurau brawychus megis y ffaith bod lleoedd fel Camden yn Llundain 23 gwaith yn fwy cynhyrchiol na gogledd Cymru fesul y pen o'r boblogaeth, ymddengys fod bwlch enfawr i'w lenwi. Dywed yr economegwyr nad ydynt yn synnu at ddiffyg cynhyrchiant Cymru, gan nodi lefelau isel o fuddsoddiad busnes, seilwaith trafnidiaeth gwael a'n diffyg buddsoddiad mewn sgiliau, a lefelau isel o ran arloesedd—pob un yn ffactor hanfodol sy'n effeithio ar gynhyrchiant. A ydych yn hyderus, Ysgrifennydd y Cabinet, fod strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru yn ddigon cadarn i sicrhau ehangiad economaidd deinamig a sbardunir gan fentrau preifat, neu’r ‘ffrwydrad’, dylwn ddweud, efallai, y mae taer ei angen ar Gymru?
Ydw, a chan gyfeirio at bwynt cyntaf yr Aelod, mae taer angen ailgydbwyso economi’r Deyrnas Unedig. Unwaith eto, cyfeirir at hynny yn strategaeth ddiwydiannol y DU, ac mae wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd ochr yn ochr â'n hymrwymiad i rymuso rhanbarthau Cymru. Ond bydd y galw am weithredu a'r contract economaidd yn mynd i’r afael â phob un o'r ffactorau hynny a amlinellwyd gan yr Aelod sy’n cyfrannu at economi fwy cynhyrchiol. Felly, er mwyn sicrhau cefnogaeth gan y Llywodraeth, mae'n rhaid i chi fodloni set o feini prawf a fydd yn ymwneud â sgiliau, yn ymwneud â lles y gweithlu ac yn ymwneud â sicrhau bod gennych botensial o ran twf. Ond wedyn, bydd ein cefnogaeth yn y dyfodol yn cael ei herio drwy brism newydd. Y prism fydd y galw am weithredu, gyda'r nod, unwaith eto, o sicrhau mwy o arloesedd ar draws yr economi, sicrhau bod gennym fwy o ymrwymiad i ddatblygu sgiliau lefel uchel ar draws y gweithlu ym mhob sector a sicrhau bod busnesau yn gallu herio'r Llywodraeth i gyflwyno rhaglenni cyllido sy'n bodloni eu gofynion hwythau hefyd.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Lywydd. Ymddangosodd yr Ysgrifennydd Parhaol a swyddogion eraill gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun i roi tystiolaeth mewn perthynas â phrosiect Cylchffordd Cymru. Yn y sesiwn honno, dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol wrthym, am y tro cyntaf, rwy’n credu, eich bod wedi dod i'r casgliad na fyddai modd darparu unrhyw ateb oni bai fod gwarant Llywodraeth Cymru yn cael ei gostwng 50 y cant o leiaf—a’i lleihau, i bob pwrpas, i oddeutu 25 y cant o gyfanswm cost y prosiect. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio eich bod wedi cyhoeddi targed o 50 y cant o gyfanswm y gost a 50 y cant o'r risg, ym mis Gorffennaf 2016, rwy'n credu, pam na ddywedoch wrth y Cynulliad fod hynny, i bob pwrpas, wedi newid i 50 y cant o'r risg a 25 y cant o gost y prosiect, yn enwedig gan nad dyna oedd y tro cyntaf, wrth gwrs, i byst y gôl gael eu symud? Yn fwy perthnasol, a allwch roi sylw penodol i'r cwestiynau na allai'r swyddogion eu hateb ddydd Llun? A ddywedwyd wrth y cwmni neu'r partneriaid eraill yn y sector preifat, cyn penderfyniad y Cabinet, fod angen lleihau'r warant ymhellach yn y ffordd y disgrifiodd yr Ysgrifennydd Parhaol? Ac a ddywedwyd wrth brif weithredwyr y cwmni ar y dydd Gwener blaenorol nad oedd unrhyw broblemau sylweddol neu faterion eraill wedi cael eu nodi drwy'r broses ddiwydrwydd dyladwy?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a chadarnhau beth yn union a ddywedasom wrth Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd? Yn ôl yn 2016, dywedais wrth Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd na fyddai unrhyw gynnig newydd i gefnogi prosiect Cylchffordd Cymru yn cael ei ystyried hyd nes y byddai o leiaf 50 y cant o'r cyllid a 50 y cant o'r risg yn cael ei ysgwyddo gan y sector preifat, ac roedd angen i'r prosiect ddarparu tystiolaeth o werth am arian hefyd. Ni ddaeth Llywodraeth Cymru i gasgliad ffurfiol ynghylch pa lefel o sicrwydd na fyddai'n arwain at risg dosbarthiad yn ymarferol. Fodd bynnag, gellir dangos y byddai angen gwarant lai o lawer i leihau'r risg o gael dyfarniad dosbarthiad anffafriol—gostyngiad o fwy na 50 y cant, o bosibl—ond ni ellir nodi unrhyw ffigur pendant mewn termau haniaethol. Nawr, ni fyddai lleihau'r risg dosbarthiad wedi sicrhau, o reidrwydd, y byddai'r prosiect yn gymwys i dderbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru. Nid yw risg dosbarthiad yr un peth â risg fasnachol i'r Llywodraeth nac uwch arianwyr y cynllun, a fyddai wedi buddsoddi mewn cynnig gyda phroffil risg a gwobr gwahanol.
Rwyf wedi dweud sawl tro ein bod wedi gweithio gyda chefnogwyr Cylchffordd Cymru i geisio sicrhau bod y cynllun hwn yn llwyddiant ac yn brosiect ymarferol. Rydym yn bwrw ymlaen bellach gyda'r parc technoleg fodurol £100 miliwn, ac mae hyn eisoes yn denu cryn ddiddordeb o bob cwr o'r byd ac rydym yn bwrw ymlaen gyda'r gwaith o ddatblygu'r safleoedd angenrheidiol er mwyn gwireddu'r weledigaeth honno.
A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ateb y cwestiynau manwl a ofynnais iddo, ac yn wir, y cwestiynau a ofynnais i swyddogion ddydd Llun? Felly, a ddywedwyd wrth y cwmni, cyn penderfyniad y Cabinet, ynglŷn â'r asesiad a ddisgrifiodd yr Ysgrifennydd Parhaol o ran yr angen i leihau'r warant ymhellach? A hefyd, a ddywedwyd wrthynt y dydd Gwener blaenorol, cyn penderfyniad y Cabinet, nad oedd unrhyw broblemau sylweddol? Nawr, roedd mater dosbarthiad y fantolen yn greiddiol i benderfyniad y Llywodraeth i wrthod y cynnig. Gwyddom o'r wybodaeth a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol fod Trysorlys Cymru wedi rhoi cyngor ar ddosbarthiad y fantolen ar 20 Mehefin y llynedd. Nawr, mae rhywfaint o amwysedd yn dilyn y dystiolaeth a roddwyd ddydd Llun ynglŷn ag a oedd y swyddog neu'r swyddogion a roddodd y cyngor hwnnw ar ddosbarthiad ar 20 Mehefin yn gwbl ymwybodol o nifer o fanylion perthnasol ynglŷn â'r prosiect. Yn benodol, unwaith eto, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a oedd y swyddog neu'r swyddogion yn Nhrysorlys Cymru a roddodd y cyngor hwnnw ar ddosbarthiad ar 20 Mehefin yn ymwybodol, ar y pryd, fod y warant ond yn cychwyn wedi i'r prosiect gael ei gwblhau?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod unwaith eto am ei gwestiynau? Ac er mwyn rhoi'r eglurhad y gofynnodd amdano, byddaf yn gofyn i fy nghyd-Aelod Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ofyn i swyddogion Trysorlys Cymru ddarparu'r atebion y mae'n gofyn amdanynt. Pa un a ddywedwyd wrth y cwmni nad oedd unrhyw broblemau sylweddol, unwaith eto, byddai angen i mi ofyn i fy swyddogion a yw hynny'n wir. Nid wyf yn ymwybodol o'r trafodaethau a allai fod wedi arwain at roi'r sicrwydd hwnnw, ond byddaf yn gofyn i fy swyddogion am eglurhad.
Ac a allai ofyn hefyd am eglurhad ynglŷn â'r cwestiwn arall nad atebodd?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mewn cyfweliad a roesoch yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 29 Mehefin i Brian Meechan ar raglen Wales at Work, credaf ichi ddweud bod eich drws ar agor o hyd pe bai cynnig wedi'i ailstrwythuro'n cael ei gyflwyno, a'ch bod yn barod i drafod eto. A dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol yn ei sylwadau ddydd Llun mai'r rheswm pam fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cymaint o amser ac arian ac egni yn y prosiect hwn oedd oherwydd ei botensial enfawr i sicrhau buddsoddiad sylweddol mewn rhan o Gymru nad yw wedi cael buddsoddiad ar y fath raddfa.
Nawr, rwy'n deall bod ymgais barhaus yn mynd rhagddi i ailstrwythuro'r cynnig, i'w gyflwyno ar ffurf wahanol, a bod y trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt yn gadarnhaol gydag awdurdodau lleol. Os byddant yn dwyn ffrwyth, a fyddai'r Llywodraeth yn rhoi ei sêl bendith yn hytrach na chefnogaeth ariannol, a chroesawu'r posibilrwydd y gallai cynnig ailstrwythuro arwain at y buddsoddiad mawr ei angen a ragwelwyd yng Nglynebwy?
Credaf ei bod yn bwysig fod y Llywodraeth yn ystyried pob cynnig dilys ar gyfer datblygiad economaidd ym mhob rhan o Gymru. O ran Blaenau'r Cymoedd, rwy'n benderfynol o fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu'r parc technoleg fodurol. Yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol, canfuwyd nad oedd angen y gylchffordd a gynigiwyd—y cynnig penodol hwnnw—er mwyn datblygu clwstwr; fodd bynnag, gallai cyfleuster profi, a fyddai'n debyg i gylchffordd, ategu'r broses o ddatblygu parc technoleg fodurol, ac yn wir, gallai adeiladu ar y buddsoddiad a allai fynd tuag ato. Felly, rwy'n parhau i fod â meddwl agored ynghylch datblygiad hirdymor y prosiect penodol hwnnw.
Yn y tymor byr, rydym yn benderfynol o fwrw ymlaen gyda'r gwaith o adeiladu cyfleuster addas a allai roi hwb i'r weledigaeth o ddarparu 1,500 o swyddi. Yn y tymor hwy, mae'n hollol bosibl y gallai fod angen cyfleuster profi ar gwmnïau modurol a fydd wedi'u lleoli yn y parc technoleg, ac mae hynny'n rhywbeth—credaf y gallwn ei seilio ar dechnoleg 5G. Os gallwn ei seilio ar dechnoleg awtonomaidd a chysylltiedig byddai'n rhywbeth a fyddai'n darparu pwynt gwerthu unigryw i Gymru, ond yn enwedig i Flaenau'r Cymoedd, mewn marchnad fyd-eang.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn gyfeirio'n ôl at adroddiad pwyllgor yr economi ar y bargeinion dinesig, os caf, a'r argymhelliad y dylai ffiniau ardal y fargen fod mor hyblyg a niwlog â phosibl. Nawr, fe wrthodoch yr argymhelliad ar sail llywodraethu, gan egluro yn y ddadl bythefnos yn ôl eich bod yn penodi dau brif swyddog rhanbarthol i sicrhau bod y bargeinion yn ategu ei gilydd, ac felly fod y ffiniau niwlog hyn yn ddiangen. Tybed beth y gallwch ei ddweud wrthym ynglŷn â'r prif swyddogion rhanbarthol hyn, gan nad ydynt wedi codi mewn trafodaethau agored fel hyn o'r blaen. Ai'r Llywodraeth fydd yn eu penodi a'u hariannu, pwy fydd yn eu harwain, ac i bwy y byddant yn atebol?
A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn? Credaf ei bod yn bwysig ailystyried y mater hwn. Roedd fy mhryderon, i raddau helaeth, yn ymwneud â'r geiriad, y ffiniau 'niwlog', a goblygiadau posibl hynny i'r strwythurau llywodraethu sydd eisoes ar waith. Fy ngweledigaeth ar gyfer y prif swyddogion rhanbarthol, yw mai hwy fydd lleisiau'r Llywodraeth yn y rhanbarthau, ond hefyd, yn hollbwysig, llais y rhanbarthau yn y Llywodraeth, gyda'r gallu i ddylanwadu ar Weinidogion Cymru, nid yn unig yn fy adran i, ond ar draws y Llywodraeth, ynglŷn â'r hyn sydd ei angen ar bob un o'r rhanbarthau hynny er mwyn dod yn fwy cynhyrchiol a chynhyrchu mwy o ffyniant.
Yn y lle cyntaf, byddant yn dod â chynlluniau busnes at ei gilydd ar draws pob un o'r rhanbarthau—cynlluniau busnes a fydd yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid y bargeinion dinesig a'r bargeinion twf a chyda llywodraeth leol ar draws pob rhanbarth a chyda mwy o ymgysylltiad rhanddeiliaid, gan gynnwys cyrff cynrychiadol megis Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Sefydliad y Cyfarwyddwyr a phartneriaid undebau llafur hefyd. Felly, drwy ddatblygu cynllun busnes rhanbarthol a fydd yn archwilio beth yw'r llif o gyfleoedd ym mhobman, bydd modd inni sicrhau y gellir sicrhau bod pob menter ar draws y Llywodraeth, boed yn fargeinion dinesig a bargeinion twf, boed yn ddatblygu seilwaith, boed yn ddatblygu ysbytai ac ysgolion a darpariaeth hyfforddiant sgiliau, i gydweddu â'r prosiectau rhanbarthol cryf a fydd yn datblygu'r economi yng Nghymru yn y dyfodol.
Diolch am eich ateb. Credaf mai'r hyn a gefais o hynny oedd mai unigolion o Lywodraeth Cymru ydynt.
Ie.
Mae hynny'n iawn, diolch. Yn yr un adroddiad, wrth gwrs, nodwyd bod llywodraethu a chraffu hefyd yn destunau pryder. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, pan fydd bwrdd bargen ddinesig Abertawe wedi'i sefydlu, ac yn cynnwys, fel y bydd, arweinwyr awdurdodau lleol wrth gwrs, ni fydd ei waith yn dychwelyd at yr awdurdodau lleol iddynt allu graffu arno, nac unrhyw gyrff cynghori ategol ychwaith—[Anghlywadwy.]—megis y grŵp strategaeth economaidd. A allwch gadarnhau, felly, a yw'r rôl graffu felly yn cael ei hysgwyddo'n llwyr gan y ddwy Lywodraeth, ac os felly, pa ddangosyddion perfformiad allweddol cyfunol ac ar wahân a bennwyd gennych eisoes ar gyfer yr asesiadau porth, gan mai hwy, wrth gwrs, fydd y bygythiad mwyaf i lwyddiant y bargeinion hyn?
Mae hwn yn gwestiwn, i raddau helaeth, i Ysgrifennydd y Cabinet sy'n arwain ar y bargeinion dinesig yn y de, sef Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd cyllid. Ond mae gweithio i sicrhau bod pob un o'r prosiectau'n cyflawni'r nodau roeddent i fod i'w cyflawni, eu bod yn creu'r swyddi yr hoffem eu gweld yn cael eu creu yn y rhanbarthau hynny, ac yn arbennig yn ardal bae Abertawe, mae'n gwbl hanfodol y gellir cyflawni pob un o'r prosiectau a'u bod yn cyflawni'r dyheadau y mae'r cymunedau a gynrychiolir gan yr awdurdodau lleol yn gobeithio eu gweld yn cael eu cyflawni.
Nawr, o ran y prif swyddogion rhanbarthol, dylwn fod wedi ychwanegu hefyd y gallai'r rolau hyn esblygu yn y dyfodol. Dyma'r tro cyntaf inni gael strwythur lle mae gennym unigolion a all ddod yn bwyntiau cyswllt unigol ar gyfer llywodraeth leol, ar gyfer busnesau ac ar gyfer sefydliadau rhanddeiliaid. A dros amser, credaf y bydd y prif swyddogion rhanbarthol yn dod yn fwyfwy pwysig o ran eu gallu i sicrhau bod pob un o'r rhanbarthau'n gweithio mewn ffordd gyfunol ac mewn ffordd sy'n ategu gwaith ei gilydd, fel y gallwn osgoi cystadlu diangen a niweidiol rhwng y rhanbarthau yng Nghymru.
Diolch, a diolch am ymhelaethu hefyd, gan fy mod wedi gobeithio y byddech yn dweud 'osgoi dyblygu ymdrech'. A diolch am ateb y cwestiwn. Rwy'n derbyn bod rhywfaint o hyn yn gyfrifoldeb ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, ond fel Ysgrifennydd yr economi, buaswn yn gobeithio y byddech o leiaf yn chwarae rhan yn y gwaith o ddiffinio'r dangosyddion perfformiad allweddol hynny.
Mae'r bargeinion, wrth gwrs, wedi cael llawer o sylw yn y wasg dros y flwyddyn ddiwethaf. Golyga hynny fod busnesau wedi bod yn cysylltu â mi i ofyn sut y gallant gymryd rhan, ac rwyf eisoes wedi crybwyll enghraifft yr Associated British Ports, a allai, yn fy marn i, chwarae rhan amlwg yn eich strategaeth ar gyfer porthladdoedd. Gyda'u harbenigedd logistaidd a'u profiad, credaf y gallent chwarae rhan allweddol yn y fargen ddinesig hefyd. Ym mis Medi y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n gofyn i'r bwrdd cysgodol beth y maent yn ei wneud i ymgysylltu ag ABP, ond nid yw ABP wedi clywed unrhyw beth gan y bwrdd cysgodol o hyd. Felly, tybed a allech wirio a rhoi gwybod inni a yw'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu, a pha ymateb a gafodd i'r ymholiad penodol hwnnw, ond yn fwy cyffredinol, sut y mae'r bwrdd yn ymateb i unrhyw gais a wnewch iddynt yn awr ynglŷn â sut y gellid diwygio prosiectau'r bargeinion dinesig er mwyn iddynt gyd-fynd yn well â strategaethau a gynhyrchwyd wedi hynny gan Lywodraeth Cymru—strategaethau'r economi a'r porthladdoedd yw'r rhai amlwg, ond y rheini a ddaeth ar ôl y fargen ddinesig, yn hytrach na chyn hynny.
Gallaf, yn sicr. Ac unwaith eto, bydd hynny'n swyddogaeth ar gyfer y prif swyddogion rhanbarthol. Rydym wedi bod yn eithaf cyson yn ein galwad ar y bwrdd cysgodol i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, fel y gwnawn yn Llywodraeth Cymru, gyda busnesau, gyda chynrychiolwyr busnes, gyda phartneriaid undebau llafur a chyda'r trydydd sector. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol, gyda phrosiectau o'r maint hwn, cael ymrwymiad llwyr y gymuned fusnes a rhanddeiliaid eraill, fel rwy'n dweud, gan y mudiad undebau llafur a'r trydydd sector. Byddaf yn sicrhau bod ateb yn cael ei ddarparu mewn perthynas â chyfraniad posibl ABP. Fel rydych yn iawn i ddweud, mae ABP yn gyflogwr pwysig ac yn fusnes sylweddol a allai chwarae rhan bwysig iawn yn natblygiad y fargen ddinesig a'r prosiectau sy'n rhan ohoni.