Teithio Llesol yng Nghwm Cynon

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 1:36, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Pan archwiliodd Sustrans sut y gellid trawsnewid 25 o dwnelau rheilffyrdd nas defnyddir yng Nghymru yn llwybrau teithio llesol, daeth un dewis i'r brig. Y dewis hwnnw oedd twnnel Aber-nant, rhwng Cwm-bach yn fy etholaeth a Merthyr Tudful, a gafodd y sgôr uchaf ar y system raddio o ran y gymhareb cost a budd a'r amcangyfrif o ddefnydd blynyddol. Mae cyngor Rhondda Cynon Taf a chyngor Merthyr Tudful wedi gwneud peth gwaith ar hyn, ond sut y gall Llywodraeth Cymru ymwneud â'r cynllun hwn a'i gefnogi, cynllun sydd â chryn botensial o ran hyrwyddo beicio a cherdded yn y Cymoedd?