Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:42, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond o ystyried y ffigurau brawychus megis y ffaith bod lleoedd fel Camden yn Llundain 23 gwaith yn fwy cynhyrchiol na gogledd Cymru fesul y pen o'r boblogaeth, ymddengys fod bwlch enfawr i'w lenwi. Dywed yr economegwyr nad ydynt yn synnu at ddiffyg cynhyrchiant Cymru, gan nodi lefelau isel o fuddsoddiad busnes, seilwaith trafnidiaeth gwael a'n diffyg buddsoddiad mewn sgiliau, a lefelau isel o ran arloesedd—pob un yn ffactor hanfodol sy'n effeithio ar gynhyrchiant. A ydych yn hyderus, Ysgrifennydd y Cabinet, fod strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru yn ddigon cadarn i sicrhau ehangiad economaidd deinamig a sbardunir gan fentrau preifat, neu’r ‘ffrwydrad’, dylwn ddweud, efallai, y mae taer ei angen ar Gymru?