Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn gyfeirio'n ôl at adroddiad pwyllgor yr economi ar y bargeinion dinesig, os caf, a'r argymhelliad y dylai ffiniau ardal y fargen fod mor hyblyg a niwlog â phosibl. Nawr, fe wrthodoch yr argymhelliad ar sail llywodraethu, gan egluro yn y ddadl bythefnos yn ôl eich bod yn penodi dau brif swyddog rhanbarthol i sicrhau bod y bargeinion yn ategu ei gilydd, ac felly fod y ffiniau niwlog hyn yn ddiangen. Tybed beth y gallwch ei ddweud wrthym ynglŷn â'r prif swyddogion rhanbarthol hyn, gan nad ydynt wedi codi mewn trafodaethau agored fel hyn o'r blaen. Ai'r Llywodraeth fydd yn eu penodi a'u hariannu, pwy fydd yn eu harwain, ac i bwy y byddant yn atebol?