Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 7 Chwefror 2018.
Gallaf, yn sicr. Ac unwaith eto, bydd hynny'n swyddogaeth ar gyfer y prif swyddogion rhanbarthol. Rydym wedi bod yn eithaf cyson yn ein galwad ar y bwrdd cysgodol i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, fel y gwnawn yn Llywodraeth Cymru, gyda busnesau, gyda chynrychiolwyr busnes, gyda phartneriaid undebau llafur a chyda'r trydydd sector. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol, gyda phrosiectau o'r maint hwn, cael ymrwymiad llwyr y gymuned fusnes a rhanddeiliaid eraill, fel rwy'n dweud, gan y mudiad undebau llafur a'r trydydd sector. Byddaf yn sicrhau bod ateb yn cael ei ddarparu mewn perthynas â chyfraniad posibl ABP. Fel rydych yn iawn i ddweud, mae ABP yn gyflogwr pwysig ac yn fusnes sylweddol a allai chwarae rhan bwysig iawn yn natblygiad y fargen ddinesig a'r prosiectau sy'n rhan ohoni.