Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 7 Chwefror 2018.
Mae gen i dipyn bach o anhawster gyda’r gair ‘cynhenid’, neu mi fuaswn i’n gorfod siarad Brythoneg yn y lle hwn, ac mi fuaswn i’n cael peth anhawster efo hynny. Ond o ddifrif, mae cydnabod yr etifeddiaeth o enwau lleoedd yn allweddol. Mae rhestr statudol yn rhan o strategaeth y Llywodraeth ar gyfer hynny. Mae wedi ei chyhoeddi ers mis Mai 2017. Mae hi’n cael ei chynnal gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sydd yn sefydliad pwysig iawn, yn fy marn i, ac yn mynd i barhau i fod felly. Mae’r gofrestr am ddim ar-lein. Mae yna dros 350,000 o enwau unigol i’w gweld ar y rhestr. Mae yna guradur amser llawn yn ei chynnal hi, ac mae’n parhau i dyfu yn gyson. Ac rydym ni o’r farn mai’r ffordd o gryfhau gwerthfawrogiad at enwau hanesyddol ydy bod pobl yn eu gweld nhw fel rhan o’u bywyd beunyddiol.
Nid wyf yn bleidiol i ddileu enwau mewn ieithoedd megis Saesneg yng Nghymru sydd yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â’r enwau Cymraeg, oherwydd nid wyf yn meddwl y byddai hynny yn briodol nac yn gyson â’r ddeddfwriaeth ddwyieithrwydd sydd gyda ni. Ond rydw i yn ffyddiog iawn y bydd y cyrff cyhoeddus—y parciau cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn y blaen—yn parhau i dalu sylw i’r canllawiau statudol ar ddefnyddio cofnodion yr amgylchedd hanesyddol, ac ar ddefnyddio, yn arbennig, y cofnodion yma o enwau lleoedd.