1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2018.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysigrwydd hybu enwau lleoedd cynhenid i dwristiaeth? OAQ51723
Diolch yn fawr. Fel y Gweinidog cyfrifol, fy ymateb cyntaf i ydy bod enwau lleoedd, fel pob defnydd arall o ieithoedd cenedlaethol a chymunedol, yn rhan allweddol o greu naws am le i ddinasyddion ac ymwelwyr â Chymru, fel ag unrhyw wlad arall, ac mae Croeso Cymru yn annog busnesau twristiaeth i gadw a defnyddio enwau Cymraeg ar gyfer busnesau.
Diolch am yr ymateb yna. Mae enwau llefydd, wrth gwrs, yn rhan o'n treftadaeth ni. Mae'n bwysig eu dathlu nhw, ond, yn bennaf oll, mae'n bwysig eu defnyddio nhw. Rydym ni i gyd yn gwybod am enghreifftiau o enwau sydd yn, neu wedi, cael eu newid. Roeddwn i'n clywed, yr wythnos yma, am 'Sausage island' yn Ynys Môn—Ynyslas ydy honno. Rydw i'n gobeithio y bydd pawb yn pleidleisio dros un o draethau gorau Cymru yng nghystadleuaeth Countryfile y BBC, ond nid 'Newborough beach' ydy enw'r traeth sydd ar y rhestr fer, ond Llanddwyn—un o'n traethau mwyaf eiconig ni. Ac, a dweud y gwir, mae'r llun sy'n cael ei ddefnyddio gan Countryfile o draeth Penrhos, sydd yr ochr arall i Ynys Llanddwyn.
Mae yna restrau ohonyn nhw: Porth Trecastell, Porth Swtan, Porth Llechog. Dyna ydyn nhw; nid Cable Bay, Church Bay a Bull Bay. Rydw i'n wirioneddol yn credu bod trio mynd yn ôl at ddefnyddio’r enwau cynhenid yma yn gallu bod yn rhywbeth a allai fod yn rhoi rhagor o werth i’n hatyniad twristaidd ni i bobl sy’n dod yma i Gymru. Mi fyddwn i wedi licio i'r ddeddfwriaeth warchod enwau lleoedd, yn hytrach na dim ond cofrestru, ond o ystyried y geiriau cynnes a glywsom ni gennych chi fel Gweinidog, pa gamau y gall y Llywodraeth—pa gamau yr ydych chi'n fodlon eu cymryd i drio’n perswadio ni i fynd yn ôl i ddefnyddio yr enwau hanesyddol, hynafol, cynhenid yma?
Mae gen i dipyn bach o anhawster gyda’r gair ‘cynhenid’, neu mi fuaswn i’n gorfod siarad Brythoneg yn y lle hwn, ac mi fuaswn i’n cael peth anhawster efo hynny. Ond o ddifrif, mae cydnabod yr etifeddiaeth o enwau lleoedd yn allweddol. Mae rhestr statudol yn rhan o strategaeth y Llywodraeth ar gyfer hynny. Mae wedi ei chyhoeddi ers mis Mai 2017. Mae hi’n cael ei chynnal gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, sydd yn sefydliad pwysig iawn, yn fy marn i, ac yn mynd i barhau i fod felly. Mae’r gofrestr am ddim ar-lein. Mae yna dros 350,000 o enwau unigol i’w gweld ar y rhestr. Mae yna guradur amser llawn yn ei chynnal hi, ac mae’n parhau i dyfu yn gyson. Ac rydym ni o’r farn mai’r ffordd o gryfhau gwerthfawrogiad at enwau hanesyddol ydy bod pobl yn eu gweld nhw fel rhan o’u bywyd beunyddiol.
Nid wyf yn bleidiol i ddileu enwau mewn ieithoedd megis Saesneg yng Nghymru sydd yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â’r enwau Cymraeg, oherwydd nid wyf yn meddwl y byddai hynny yn briodol nac yn gyson â’r ddeddfwriaeth ddwyieithrwydd sydd gyda ni. Ond rydw i yn ffyddiog iawn y bydd y cyrff cyhoeddus—y parciau cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn y blaen—yn parhau i dalu sylw i’r canllawiau statudol ar ddefnyddio cofnodion yr amgylchedd hanesyddol, ac ar ddefnyddio, yn arbennig, y cofnodion yma o enwau lleoedd.
Weinidog, os caf fynd ar drywydd ychydig yn wahanol i Rhun ap Iorwerth, un ffordd allweddol o hyrwyddo lleoedd yng Nghymru pan fydd twristiaid ac ymwelwyr wedi cyrraedd yma, wrth gwrs, yw drwy arwyddion. Rwy'n cofio sôn wrth Carl Seargant, pan oedd yn Weinidog trafnidiaeth, am yr arwyddion brown, hen ffasiwn braidd, a blêr mewn rhai achosion, a geir o amgylch Cymru yn hysbysebu ein mannau o ddiddordeb. Dywedodd rai blynyddoedd yn ôl y byddai'n edrych ar adolygu'r ffordd y caiff yr arwyddion eu cyflwyno ac o bosibl, eu gwneud yn fwy ysbrydoledig, gyda mwy o gysylltiad â'r rhyngrwyd. Felly, tybed a allech ddweud wrthym sut rydych chi a'r Ysgrifennydd Cabinet cyfredol, sydd bellach wedi ei sbarduno i weithredu—mae'r mater hwn yn ymwneud â meysydd y ddau ohonoch wrth gwrs—yn gweithio gyda'ch gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn cynnal adolygiad llawn o'r arwyddion brown yng Nghymru fel bod lleoedd fel castell Rhaglan yn fy etholaeth, y byddwch wedi pasio'r arwydd erbyn i chi ei weld, yn cael eu marchnata'n briodol yn fewnol ac yn allanol fel y gallwn gael y gorau o'r holl leoedd sydd gan Gymru i'w cynnig.
Diolch i chi am hynny. Rhaid i arwyddion, yn anad dim, fod yn glir, yn ddealladwy, ac mae'n bwysig nad ydynt yn peri i'r person sy'n edrych ar yr arwyddion, yn enwedig os yw'r person hwnnw'n gyrru, golli'r gallu i ganolbwyntio ar y gwaith y mae'n rhaid i'r person hwnnw ei wneud. Ond bellach mae gennym ffordd newydd o ddisgrifio sut y mae ymwelwyr yn teithio drwy Gymru, a'r ffordd Gymreig yw honno. Nid y ffordd Gymreig o fyw; mae hwn yn rhywbeth arall—llwybr Cymru—un ar draws y gogledd, un yr holl ffordd i lawr o Aberdaron i Dyddewi, ac un arall wedyn, wrth gwrs, yr A470, fel y gelwir y llwybr adnabyddus hwnnw. Nawr, mae'n bosibl dilyn cyfres gyfan o gyrchfannau ar hyd y llwybr hwnnw, a'r hyn rydym yn ceisio'i wneud yw creu'r syniad o bererindod fodern, neu efallai pererindod ôl-fodern hyd yn oed, lle mae pobl yn mynd i edrych ar bethau sy'n ystyrlon iddynt pan fyddant wedi canfod lle maent ar hyd y llwybrau hynny. Felly, arwyddion, ie, ond yn bwysicach na'r arwyddion uniongyrchol yw'r wybodaeth sydd ar gael ar y rhyngrwyd, y wybodaeth sydd ar gael mewn llyfrynnau twristiaeth, a'r syniad fod Cymru gyfan yn gyrchfan ac yn fan pererindod, fel y dywedais.