Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:49, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Ac a allai ofyn hefyd am eglurhad ynglŷn â'r cwestiwn arall nad atebodd?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mewn cyfweliad a roesoch yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 29 Mehefin i Brian Meechan ar raglen Wales at Work, credaf ichi ddweud bod eich drws ar agor o hyd pe bai cynnig wedi'i ailstrwythuro'n cael ei gyflwyno, a'ch bod yn barod i drafod eto. A dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol yn ei sylwadau ddydd Llun mai'r rheswm pam fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cymaint o amser ac arian ac egni yn y prosiect hwn oedd oherwydd ei botensial enfawr i sicrhau buddsoddiad sylweddol mewn rhan o Gymru nad yw wedi cael buddsoddiad ar y fath raddfa.

Nawr, rwy'n deall bod ymgais barhaus yn mynd rhagddi i ailstrwythuro'r cynnig, i'w gyflwyno ar ffurf wahanol, a bod y trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt yn gadarnhaol gydag awdurdodau lleol. Os byddant yn dwyn ffrwyth, a fyddai'r Llywodraeth yn rhoi ei sêl bendith yn hytrach na chefnogaeth ariannol, a chroesawu'r posibilrwydd y gallai cynnig ailstrwythuro arwain at y buddsoddiad mawr ei angen a ragwelwyd yng Nglynebwy?