Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:54, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Mae hynny'n iawn, diolch. Yn yr un adroddiad, wrth gwrs, nodwyd bod llywodraethu a chraffu hefyd yn destunau pryder. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, pan fydd bwrdd bargen ddinesig Abertawe wedi'i sefydlu, ac yn cynnwys, fel y bydd, arweinwyr awdurdodau lleol wrth gwrs, ni fydd ei waith yn dychwelyd at yr awdurdodau lleol iddynt allu graffu arno, nac unrhyw gyrff cynghori ategol ychwaith—[Anghlywadwy.]—megis y grŵp strategaeth economaidd. A allwch gadarnhau, felly, a yw'r rôl graffu felly yn cael ei hysgwyddo'n llwyr gan y ddwy Lywodraeth, ac os felly, pa ddangosyddion perfformiad allweddol cyfunol ac ar wahân a bennwyd gennych eisoes ar gyfer yr asesiadau porth, gan mai hwy, wrth gwrs, fydd y bygythiad mwyaf i lwyddiant y bargeinion hyn?