Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 7 Chwefror 2018.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn anffodus, ar hyn o bryd, Cymru sydd â'r cynhyrchiant isaf o unrhyw un o wledydd y DU, sef 83 y cant yn unig o gyfartaledd y DU. Mae economegwyr wedi nodi bod gwella cynhyrchiant yn hollbwysig i'n dyfodol economaidd. A all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei gynlluniau i wella lefelau cynhyrchiant yng Nghymru?