Enwau Lleoedd Cynhenid

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:03, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am hynny. Rhaid i arwyddion, yn anad dim, fod yn glir, yn ddealladwy, ac mae'n bwysig nad ydynt yn peri i'r person sy'n edrych ar yr arwyddion, yn enwedig os yw'r person hwnnw'n gyrru, golli'r gallu i ganolbwyntio ar y gwaith y mae'n rhaid i'r person hwnnw ei wneud. Ond bellach mae gennym ffordd newydd o ddisgrifio sut y mae ymwelwyr yn teithio drwy Gymru, a'r ffordd Gymreig yw honno. Nid y ffordd Gymreig o fyw; mae hwn yn rhywbeth arall—llwybr Cymru—un ar draws y gogledd, un yr holl ffordd i lawr o Aberdaron i Dyddewi, ac un arall wedyn, wrth gwrs, yr A470, fel y gelwir y llwybr adnabyddus hwnnw. Nawr, mae'n bosibl dilyn cyfres gyfan o gyrchfannau ar hyd y llwybr hwnnw, a'r hyn rydym yn ceisio'i wneud yw creu'r syniad o bererindod fodern, neu efallai pererindod ôl-fodern hyd yn oed, lle mae pobl yn mynd i edrych ar bethau sy'n ystyrlon iddynt pan fyddant wedi canfod lle maent ar hyd y llwybrau hynny. Felly, arwyddion, ie, ond yn bwysicach na'r arwyddion uniongyrchol yw'r wybodaeth sydd ar gael ar y rhyngrwyd, y wybodaeth sydd ar gael mewn llyfrynnau twristiaeth, a'r syniad fod Cymru gyfan yn gyrchfan ac yn fan pererindod, fel y dywedais.