Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 7 Chwefror 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, un ffordd o hyrwyddo entrepreneuriaeth yn fwy eang ledled Cymru yw drwy sicrhau bod sgiliau menter yn cael eu haddysgu fel rhan o'r cwricwlwm yma yng Nghymru, er mwyn annog plant a phobl ifanc i edrych ar ffyrdd y gallant ddatblygu a rheoli eu prosiectau eu hunain. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc ar draws pob rhan o Gymru, ac a allwch ddweud wrthym hefyd pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y mater penodol hwn?