Entrepreneuriaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 7 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:07, 7 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae wedi bod yn fater penodol rydym wedi'i archwilio'n agos iawn dros y blynyddoedd, gyda'r Ysgrifennydd addysg cyfredol a'i rhagflaenydd hefyd. Bydd newidiadau i'r cwricwlwm yn hanfodol i sbarduno ysbryd entrepreneuraidd ar oedran iau, ond rydym eisoes yn buddsoddi'n helaeth yng ngwasanaeth Syniadau Mawr Cymru sydd wedi cael ei gyflwyno mewn ysgolion ledled Nghymru. Mae hynny'n cwmpasu ymyriadau fel Y Criw Mentrus a modelau rôl hefyd. O ganlyniad i'n buddsoddiad a'r ymdrech ar y cyd i wella entrepreneuriaeth ymysg pobl iau, rydym yn awr yn gweld mwy o bobl ifanc sydd eisiau cychwyn eu busnesau eu hunain nag a welwyd erioed o'r blaen. Credaf mai'r rheswm am hynny yw bod pobl ifanc yng Nghymru eisiau defnyddio'u creadigrwydd a'u harloesedd yn yr oes fodern.